Salm 23

Oddi ar Wicipedia

Salm 23 yw'r 23ain o 150 o salmau yn Llyfr y Salmau. Mae'n cael ei hadnabod yn gyffredinol wrth eiriau agoriadol ei hadnod gyntaf, sef "Yr Arglwydd yw fy Mugail". Llyfr y Salmau yw trydedd adran y Beibl Hebraeg, [1] ac mae'n lyfr sydd wedi'i gynnwys yn yr Hen Destament Cristnogol. Yn y cyfieithiad Deg a Thrigain Groeg o'r Beibl, ac yng nghyfieithiad Lladin y Fwlgat , Salm 22 yw'r salm hon oherwydd bod y system rifo ychydig yn wahanol. Yn Lladin, fe'i gelwir yn "Dominus reget me et nihil mihi deerit".[2]

Fel pob salm, byddai'r hen Hebreaid yn defnyddio Salm 23 wrth addoli. Mae'r awdur yn disgrifio Duw fel ei fugail, yn ei amddiffyn a darparu ar ei gyfer. Caiff yr salm ei darllen, ei hadrodd a'i chanu gan Iddewon a Christnogion. Mae wedi'i disgrifio fel y mwyaf adnabyddus o'r holl salmau oherwydd y modd y mae'n trafod y thema gyffredinol o ymddiried yn Nuw.[3]

Y testun[golygu | golygu cod]

Ceir isod y testun Hebraeg a chyfieithiad Beibl 1588 gan yr Esgob William Morgan o Salm 23:

Adnod Hebraeg Cymraeg (Beibl 1588)
1 מִזְמ֥וֹר לְדָוִ֑ד יְהֹוָ֥ה רֹ֜עִ֗י לֹ֣א אֶחְסָֽר Salm Dafydd. Yr ARGLWYDD yw fy Mugail; ni bydd eisiau arnaf.
2 בִּנְא֣וֹת דֶּ֖שֶׁא יַרְבִּיצֵ֑נִי עַל־מֵ֖י מְנֻח֣וֹת יְנַֽהֲלֵֽנִי Efe a wna i mi orwedd mewn porfeydd gwelltog; efe a'm tywys gerllaw y dyfroedd tawel.
3 נַפְשִׁ֥י יְשׁוֹבֵ֑ב יַנְחֵ֥נִי בְמַעְגְּלֵי־צֶ֜֗דֶק לְמַ֣עַן שְׁמֽוֹ Efe a ddychwel fy enaid: efe a'm harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw.
4 גַּ֚ם כִּֽי־אֵלֵ֨ךְ בְּגֵ֪יא צַלְמָ֡וֶת לֹא־אִ֘ירָ֚א רָ֗ע כִּי־אַתָּ֥ה עִמָּדִ֑י שִׁבְטְךָ֥ וּ֜מִשְׁעַנְתֶּ֗ךָ הֵ֣מָּה יְנַֽחֲמֻֽנִי Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed: canys yr wyt ti gyda mi; dy wialen a'th ffon a'm cysurant.
5 תַּֽ֘עֲרֹ֤ךְ לְפָנַ֨י | שֻׁלְחָ֗ן נֶ֥גֶד צֹֽרְרָ֑י דִּשַּׁ֖נְתָּ בַשֶּׁ֥מֶן רֹ֜אשִׁ֗י כּוֹסִ֥י רְוָיָֽה Ti a arlwyi ford ger fy mron yng ngŵydd fy ngwrthwynebwyr: iraist fy mhen ag olew; fy ffiol sydd lawn.
6 אַ֚ךְ ט֣וֹב וִ֖סֶד יִ֖רְדְּפוּנִי כָּל־יְמֵ֣י חַיָּ֑י וְשַׁבְתִּ֖י בְּבֵית־יְ֜הֹוָ֗ה לְאֹ֣רֶךְ יָמִֽים Daioni a thrugaredd yn ddiau a'm canlynant holl ddyddiau fy mywyd: a phreswyliaf yn nhŷ yr ARGLWYDD yn dragywydd.

Defnydd yn y traddodiadau Iddewig a Christnogol[golygu | golygu cod]

Yn yr traddodiad Iddewig, mae Salm 23 yn cael ei chanu yn ystod trydydd pryd y Saboth. Mae hefyd yn cael ei thraddodi ym mhresenoldeb person ymadawedig, gan y rhai sy'n gwylio dros y corff cyn claddedigaeth, neu yn y gwasanaeth angladd ei hun.

I Gristnogion, mae'r ddelwedd o Dduw fel bugail yn cysylltu nid yn unig â Dafydd ond hefyd Iesu , a ddisgrifiodd ei hun fel "Bugail Da" yn Efengyl Ioan . Mae "glyn cysgod angau" hefyd yn aml yn cael ei gymryd fel cyfeiriad at fywyd tragwyddol y mae Iesu yn ei roi.

Mae Cristnogion Uniongred fel arfer yn cynnwys y Salm hon yn eu gweddïau wrth baratoi ar gyfer derbyn y Cymun .

Mae'r salm yn ddarn poblogaidd i'w roi ar gof ac fe'i defnyddir yn aml mewn pregethau. Mae hefyd wedi'i gosod i nifer fawr o drefniannau cerddorol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Mazor 2011, t. 589.
  2. "Lladin cyfochrog / English Psalter / Psalmus 22 (23) middleist.net". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-24. Cyrchwyd 2019-04-02.
  3. Heller, Rebbetzin Tziporah (3 August 2002). "The Lord is My Shepherd". Aish.com. Cyrchwyd 28 June 2018.