Sacco a Vanzetti

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Nicola Sacco (dde) a Bartolomeo Vanzetti mewn gefynnau llaw

Dau anarchydd Eidaleg oedd Nicola Sacco (22 Ebrill 189123 Awst 1927) a Bartolomeo Vanzetti (11 Mehefin 188823 Awst 1927). Cawsant eu harestio, eu profi, a'u hanfon i'r gadair drydanol yn Massachusetts yn 1927, ar ôl eu cael yn euog o gyhuddiadau o lofruddio Frederick Parmenter, swyddog cyllid mewn ffatri esgidiau, ac Alessandro Berardelli, amddiffynwr arfog, a dwyn $15 766.51 o'r ffatri. Serch hynny, mynegwyd amheuaeth ar y pryd am eu heuogrwydd. Digwyddodd y llofruddiaethau a'r lledrad ym mis Ebrill 1920, a thri ysbeiliwr yn cymryd rhan. Roedd gan Sacco a Vanzetti alibïau, a nhw oedd yr unig bobl i gael eu cyhuddo o'r drosedd. Honnir i'r Barnwr Webster Thayer, a glywodd yr achos, ddisgrifio'r ddau fel "bastardau anarchaidd". Crydd oedd Sacco oedd wedi'i eni yn Torremaggiore, Foggia, Puglia. Roedd Vanzetti yn werthwr pysgod o Villafalletto, Cuneo, Piemonte.

Cefndir ac ymatebion[golygu]

Ymgyrchodd nifer o ddeuallusion enwog, yn cynnwys Dorothy Parker, Edna St. Vincent Millay, Bertrand Russell, John Dos Passos, Upton Sinclair, George Bernard Shaw ac H. G. Wells am aildreial ond roeddent yn aflwyddiannus. Ar 23 Awst 1927, ar ôl saith mlynedd o garchariad, anfonwyd y ddau i'r gadair drydanol. Achosiodd y dienyddiad terfysgoedd yn Llundain, Paris ac yn yr Almaen.

Ymchwiliadau diweddarach[golygu]

Ymddangosodd un darn o dystiolaeth i awgrymu euogrwydd Sacco yn 1914, pryd dywedodd yr arweinydd anarchaidd Carlo Tresca i Max Eastman, "Roedd Sacco yn euog ond roedd Vanzetti yn ddieuog." Argraffwyd Eastman erthygl yn adrodd ei sgwrs â Tresca yn y National Review yn 1961. Nes ymlaen, cadarnhaodd eraill i Tresca fynegi'r un wybodaeth.

Ar 23 Awst 1977, yn union hanner can mlynedd ar ôl eu dienyddiad, cyhoeddodd Llywodraethwr Massachusetts Michael Dukakis, ddatganiad yn cyhoeddi nad oedd Sacco a Vanzetti wedi cael eu trin yn gyfiawn ac y "ddylai unrhyw waradwydd gael ei dynnu o'u henwau am fyth".