Sólheimajökull

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Pen blaen rhewlif Sólheimajökull yn 1910.
Pen blaen rhewlif Sólheimajökull yn 2007.

Mae Sólheimajökull yn rewlif yn ne Gwlad yr Iâ rhwng llosgfynyddoedd Katla a Eyjafjallajökull. (Eyjafjallajökull oedd y llosgfynydd enwog a ffrwydrodd yn 2010 gyda'i lludw gan achosi trafferthion i awyrenau hedfan i'r ynys.)[1]

Mae rhewlif Sólheimajökull tua deg cilomedr o hyd, gan ffurfio tafod rhewlifol Mýrdalsjökull. Mae'n llifo tua'r de ac yn rhoi genedigaeth i afon, y Jökulsá i Sólheimasandi, sy'n llifo fewn i'r Iwerydd. Mae gan yr afon hwn y ffugenw "yr afon ddewllyd" oherwydd y solfatariaid daw ohono (math o fumarole yw solfatar sy'n rhyddhau symiau mawr o sylffwr. Mae'r term hwn hefyd yn cyfeirio at y dyddodion sylffwr ynddynt eu hunain. Daw ei enw o'r Solfatara, crater folcanig o'r Eidal, ym maestrefi Napoli).

Mae'n ran o rewlif llawer mwy o'r enw, Mýrdalsjökull. Mae Sólheimajökull yn atyniad twristiaeth boblogaidd oherwydd ei faint a'r ffaith ei fod yn gymharol hawdd i'w gyrraeddd.[2]

Daeareg[golygu | golygu cod y dudalen]

Gorwedd Sólheimajökull fel rhan o'r rhewlif fwy, Mýrdalsjökull, sydd ei hyn yn gorwedd ar ben caledra Katla. Mae'r rhewlif yn dadmeryn sydyn oherwydd cynhesu tymhorol blynyddol sydd wedi ei achosi gan newid hinsawdd. Mae'n bosib y bydd nifer o rewlifoedd Gwlad yr Iâ wedi diflannu o fewn y can mlynedd nesa.[angen ffynhonnell]


Panorama of Sólheimajökull glacial tongue and the valley leading to it
panorama o rewlif Sólheimajökull

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfesurynnau: 63°33′N 19°18′W / 63.550°N 19.300°W / 63.550; -19.300