Rwlét Rwsiaidd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Rwlét Rwsieg)

Mae rwlét Rwsiaidd (Rwsieg: русская рулетка, russkaya ruletka) yn gêm siawns farwol lle mae chwaraewr yn gosod un bwled mewn rifolfer, yn troi'r silindr, yn gosod blaen y gwn yn erbyn ei ben ei hun ac yn tynnu'r clicied. Mae "Rwsia" yn cyfeirio at y wlad lle honnir i'r gêm tarddu, a "rwlét" at yr elfen o hap chware gyda theclyn sy'n troi, megis bwrdd rwlét.

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae tarddiad rwlét Rwsieg yn aneglur, ond credir ei fod wedi dechrau yn y 19g pan fyddai goruchwylwyr carchar sadistig mewn carchardai yn Rwsia yn gorfodi carcharorion i chwarae ac yn rhoi bet ar y canlyniad.[1]

Mae'n debyg mae'r awdur storïau ar gyfer cylchgronau rhad Georges Surdez oedd y cyntaf i ddefnyddio'r term rwlét Rwsiaidd. Fodd bynnag, mae'r stori yn disgrifio defnyddio gwn gydag un siambr wag allan o chwech, yn hytrach na phum siambr wag allan o chwech.[2]

Mae'r term hefyd yn cael ei ddefnyddio am y camau o gymryd risgiau difrifol iawn gydag unrhyw beth pwysig. Er enghraifft yn 2017 rhybuddiodd Heddlu Gogledd Cymru, ar ôl farwolaeth bachgen trwy gymryd tabledi ecstasi, Mae cymryd y tabledi hyn fel chwarae rwlét Rwsieg. Nid oes gennych reolaeth dros y risg. Gallwch farw [3]

Er mwyn ei arteithio bu herwgipwyr John Paul Getty III yn rhoi gwn wrth ei dalcen gan ei orfodi i chwarae rwlét Rwsiaidd.

Tebygolrwydd[golygu | golygu cod]

Oherwydd mai dim ond un siambr sydd wedi'i lwytho, mae gan y chwaraewr un siawns mewn x o gael ei saethu; x yw nifer y siambrau yn y silindr. Felly, er enghraifft, os yw rifolfer yn cynnwys chwe siambr, mae'r siawns o farw yn un mewn pob chwe ergyd.

Gemau yfed[golygu | golygu cod]

Mae yna gêm yfed sy'n seiliedig ar rwlét Rwsiaidd. I chware'r gêm mae angen chwe gwydr siot. Bydd pump wedi llenwi efo dŵr a'r chweched efo fodca. Trefnir y gwydrau mewn cylch, a bydd y chwaraewyr yn dewis gwydr ar hap. Mae'r un sy'n yfed y fodca yn gorfod prynu diod i bawb.[4]

Mae yna hefyd gêm o'r enw Beer Hunter (wedi ei enwi ar ôl golygfeydd rwlét Rwsiaidd yn y ffilm The Deer Hunter). Yn y gêm hon, defnyddir chwe chan o gwrw, neu pop. Mae un can yn cael ei ysgwyd yn egnïol, ac mae'r caniau yn cael eu cymysgu'n ddirgel fel bod neb yn gwybod pa un yw'r un sydd wedi ei ysgwyd. Mae'r chwaraewyr yn cymryd tro i agor can o dan eu trwynau. Yr un sy'n agor y can wedi ei ysgwyd, ac yn ysgwyd diod i fyny ei drwyn, yw'r collwr.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]