Ruínas de San Domingos

Oddi ar Wicipedia
Ruínas de San Domingos
LleoliadPontevedra, Galisia
Cyfesurynnau42°25′52″N 8°38′49″W / 42.431198°N 8.646964°W / 42.431198; -8.646964Cyfesurynnau: 42°25′52″N 8°38′49″W / 42.431198°N 8.646964°W / 42.431198; -8.646964
Enw swyddogol: Ruínas de San Domingos
Llinyn mesurHeneb
Dynodwyd1895
RhifRI-51-0000070
Lleoliad Ruínas de San Domingos o fewn Sbaen.

Lleiandy oedd Ruínas de San Domingos sydd wedi'i leoli yn Mhontevedra, Galisia. Ychwanegwyd yr adeilad ar gofrestr o adeiladau hanesyddol y Bien de Interés Cultural yn 1895. Cychwynnwyd ar y gwaith o'i adnewyddu yn 1903 a daeth i ben yn 1947.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Y rhannau gwreiddiol[golygu | golygu cod]

Dyma'r adeilad hynaf o holl adeiladau dinas Pontevedra. Mae'r prif gromfan - sydd wedi'i wneud o 5 cromfan llai - dyddio'r rhain i oddeutu 1282, fel y mae rhan o'r mur deheuol a'r fynedfa i gabidwl Lleiandy Santo Domingo. Mae'r rhannau eraill yn ddiweddarach, gyda llawer o'r adeiladau'n dyddio'n ôl i rhwng 1383 - 15g.[2]

1836-1880[golygu | golygu cod]

Yn dilyn deddfau newydd, caewyd y cwfaint ar 8 Rhagfyr 1836, pan gafodd ei drosglwyddo i gorff bwrpasol, sef y "Junta de Enajenación de Edificios y Efectos de los Conventos Suprimidos de la Provincia de Pontevedra" a defnyddiwyd yr adeilad fel gwallgofdy ac yna fel carchar i ferched. Yn 1869, caewyd y lle, a oedd bryd hynny'n cael ei ddefnyddio fel hosbis ac fe'i trosglwyddwyd i Santa Clara, ysgol i blant bach, a gweithgareddau amrywiol dan ofal y cyngor lleol. Dyna ddechrau dadfeilio'r adeilad ac erbyn 1846 defnyddiwyd rhai o gerrig y lleiandy fel wyneb ffordd leol. Yn 1864 dymchwelwyd un o'i gapeli a rhwng 1869 ac 1870 dymchwelwyd rhan uchaf y tŵr yng nghornel de-ddwyrain y lleiandy.

1880-1947[golygu | golygu cod]

Yng Ngorffennaf 1880 cytunodd y cyngor lleol i ddymchwel yr holl adeilad, ond daeth José Casal y Lois, aelod o'r Comisiwn Henebion, i'r adwy a chafwyd gorchymyn i atal y dymchwel. Cafwyd brwydr arall i'w ddymchwel chwe mlynedd yn ddiweddarach, ond unwaith eto, roedd yn aflwyddiannus.

Ar 14 Awst 1895 dynodwyd Ruínas de San Domingos yn Heneb Cenedlaethol a daeth o dan orchwyl y Comisiwn Henebion Cenedlaethol a defnyddiwyd yr adeilad gan Gymdeithas Archaeolegol Pontevedra a gynlluniodd i'w ddefnyddio fel amgueddfa.

Galeri[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]