Rottweiler

Oddi ar Wicipedia
Rottweiler
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
Mathci Edit this on Wikidata
Màs50 cilogram, 42 cilogram Edit this on Wikidata
Gwladyr Almaen Edit this on Wikidata
Enw brodorolRottweiler Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ci Rottweiler

Ci gwaith sy'n tarddu o'r Almaen yw'r Rottweiler (lluosog: cŵn Rottweiler).[1]

Disgyna'r brîd o hen gi gwartheg a ddaethpwyd i ardal Rottweil yn ne'r Almaen gan y Rhufeiniaid. O'r Oesoedd Canol hyd wawr yr oes fodern bu'r cigydd Almaenig yn hebrwng ei gi Rottweiler i'r farchnad gyda chwdyn arian am ei wddf ac yn tynnu cert llawn cig.[2] Nid cymar y cigydd yn unig bu'r Rottweiler. Roedd yn warchotgi cymwys i'r marchnadwr ar ei daith, yn ogystal â sodli gwartheg y porthmon wrth eu gyrru ar y ffordd. Ers gwahardd sodli gwartheg yn yr Almaen ar ddechrau'r 20g, defnyddid y Rottweiler yn gi tynnu, ci heddlu, ci tywys, ci chwilio ac achub, a chi anwes.

Ci mawr a chydnerth yw'r Rottweiler. Mae ganddo gorff cryf gyda chefn byr, a choesau cyhyrog o hyd canolig. Câi'r gynffon ei docio gan amlaf. Côt o flew byr a bras sydd ganddo, melyn a du: du gyda marciau melynddu neu liw mahogani ar y pen, y frest a'r coesau. Mae'n sefyll 56 i 68.5 cm ac yn pwyso rhwng 41 a 50 kg.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur yr Academi, [Rottweiler].
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Rottweiler. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Awst 2016.