Rosehearty
Math | tref, bwrdeistref fach |
---|---|
Poblogaeth | 1,320 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Aberdeen |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 57.69677°N 2.11435°W |
Cod SYG | S20000272, S19000301 |
Cod post | AB43 |
Tref yn awdurdod unedol Swydd Aberdeen, yr Alban, yw Rosehearty[1] (Gaeleg yr Alban: Ros Abhartaich).[2]
Yn 2001 roedd y boblogaeth yn 1,194 gyda 91.88% o’r rheiny wedi’u geni yn yr Alban a 6.28% wedi’u geni yn Lloegr.[3]
Hanes
[golygu | golygu cod]Saif y dref fach ar lan y môr tua milltir i'r gogledd o Pitsligo. Mae traddodiad bod criw o Ddaniaid wedi glanio a phreswylio yno yn y 14g, gan gyfarwyddo'r trigolion, a oedd yn bennaf yn grofftwyr, yn y grefft o bysgota.
Roedd Alexander Forbes, pedwerydd Arglwydd ac Arglwydd olaf Pitsligo (1678 - 1762) yn gefnogwr brwd i'r teulu Stuart alltud a chymerodd ran yn y ddau wrthryfel. Ar ôl Culloden, arhosodd ger y dref i guddio, a'i brif le cuddio oedd ogof yn y creigiau i'r gorllewin o Rosehearty.[4]
Gwaith
[golygu | golygu cod]Yn 2001 roedd 504 mewn gwaith. Ymhlith y prif waith yn y gymuned roedd:
- Amaeth: 0.2%
- Cynhyrchu: 25.2%
- Adeiladu: 9.52%
- Mânwerthu: 16.27%
- Twristiaeth: 5.16%
- Eiddo: 5.75%
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 2 Mai 2022
- ↑ Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba Archifwyd 2022-05-26 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 2 Mai 2022
- ↑ Gwefan Cofnodion Cenedlaethol yr Alban Archifwyd 2009-01-05 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 15/12/2012.
- ↑ Mackie, Alexander (1911). Aberdeenshire. Cambridge County Geographies. Caergrawnt: Gwasg Brifysgol Caergrawnt. t. 193.