Robert Armin

Oddi ar Wicipedia
Robert Armin
Ganwyd1563 Edit this on Wikidata
King's Lynn Edit this on Wikidata
Bu farwTachwedd 1615 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, perfformiwr mewn syrcas, dramodydd, actor llwyfan Edit this on Wikidata
Arddullcomedi Shakespearaidd Edit this on Wikidata

Actor a dramodydd Seisnig oedd Robert Armin (tua 1568Tachwedd 1615) a oedd yn aelod o gwmni'r Chamberlain's Men o 1598 i 1610 ac yn enwog am berfformio rhannau digrif yn nramâu William Shakespeare.

Ganed yn niwedd y 1560au, ac aeth yn brentis i of aur yn y 1580au. Yn y cyfnod hwn bu'n gyfeillgar â Richard Tarlton, un o actorion digrif a chlowniau amlycaf ei oes. Gweithiodd Armin gyda Lord Chandos's Men am gyfnod byr a bu'n perfformio ar ben ei hun hefyd. Cyhoeddwyd dwy lyfr ganddo yn 1600 dan y ffugenw Clonnico de Curtanio Snuffe: Foole upon Foole; or, Six Sortes of Sottes a'r llyfr ffraethebion Quips upon Questions. Ysgrifennodd hefyd y ddrama The History of the Two Maids of More-clacke (1609) a chasgliad o faledi, The Italian Taylor and His Boy (1609).[1]

Tua 1598, olynodd Armin y clown William Kempe ym mherfformiadau'r Chamberlain's Men. Portreadodd y cymeriadau Dogberry yn Much Ado About Nothing, Touchstone yn As You Like It, Feste yn Twelfth Night, a'r ffŵl yn King Lear. Credir iddo hefyd chwarae Abel Drugger yn The Alchemist gan Ben Jonson a Robin yn Doctor Faustus gan Christopher Marlowe. Bu farw yn Llundain.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Robert Armin. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Hydref 2020.