Richard Richards (AS Meirionnydd)

Oddi ar Wicipedia
Richard Richards
Ganwyd22 Medi 1787 Edit this on Wikidata
Dolgellau Edit this on Wikidata
Bu farw27 Tachwedd 1860 Edit this on Wikidata
Dolgellau Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbargyfreithiwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
TadRichard Richards Edit this on Wikidata

Roedd Richard Richards (22 Medi 178727 Tachwedd 1860) yn gyfreithiwr ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Meirionnydd o 1835 i 1852.[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Richards yn Nolgellau yn fab hynaf i Syr Richard Richards, Prif Barwn y Trysorlys a Catherine ferch ac etifedd Robert Vaughan Humphreys, ystâd Caerynwch, Dolgellau

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Westminster a choleg Eglwys Crist, Rhydychen lle raddiodd BA ym 1810 ac MA ym 1812.

Ym 1814 priododd Harriet merch hynaf Jonathan Dennett, bu iddynt un mab a dwy ferch.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Hyfforddwyd Richards yn y gyfraith yn y Deml Fewnol gan gael ei alw i'r Bar ym 1812. Ym 1814 fe'i penodwyd yn Comisiynydd Methdaliadau. Ym 1820 fe'i penodwyd yn Gyfrifydd a Meistr Llys y Trysorlys gan dal y swydd hyd 1841 pan benodwyd ef yn Feistr mewn Siawnsri.

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod]

Ar ymddeoliad Syr Robert Williames Vaughan o'r Senedd ym 1836 Safodd Richards yn enw'r Blaid Geidwadol gan ennill y sedd yn gyffyrddus dros ei wrthwynebydd Rhyddfrydol gyda 77% o'r bleidlais. Cadwodd y sedd yn ddiwrthwynebiad ym 1837, 1841 a 1847 gan ymneilltuo o'r Senedd ar adeg etholiad cyffredinol 1852[3]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Eglwys St Marc

Bu farw yng Nghaerynwch, Dolgellau yn 70 mlwydd oed a rhoddwyd ei weddillion i orwedd yng nghladdgell y teulu yn Eglwys Sant Marc y Brithdir.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y Bywgraffiadur RICHARDS (TEULU), Coed, a HUMPHREYS (TEULU), Caerynwch [1] adalwyd 4 Ionawr 2016
  2. "Advertising - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality". Kenmuir Whitworth Douglas. 1860-12-08. Cyrchwyd 2016-01-04.
  3. Williams, William Retlaw, The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliesr times to the present day, 1541-1895 [2] adalwyd 4 Ionawr 2016
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Robert Williames Vaughan
Aelod Seneddol Meirionnydd
18361852
Olynydd:
William Watkin Edward Wynne