Rhyw diogel

Oddi ar Wicipedia
Gellir Condom gael ei ddefnyddio gan ddynion ar gyfer rhyw diogel
Gellir defnyddio Sgwar gweinlyfu latex er mwyn ymarfer gweinlyfu neu llyfu rhefr diogel. 

Mae rhyw diogel yn golygu gweithgarwch rhywiol rhwng pobl sydd wedi cymryd camau rhagofalus er mwyn amddiffyn eu hunain yn erbyn heintiau a drosglwyddir yn rhywiol fel HIV.[1] Rhyw anniogel yw gweithgarwch rhywiol heb gamau rhagofalus, heb ddefnyddio condom yn arbennig. 

Daeth ymarferion rhyw diogel yn fwy amlwg yn yr 80au hwyr o ganlyniad i'r Epidemig HIV. Mae hyrwyddo rhyw diogel yn un o amcanion addysg rhyw. 

Er gall rhai arferion rhyw diogel eu defnyddio fel modd o osgoi beichiogi (atal genhedlu), nid yw'r mwyafrif o'r ffurfiau yma o atal genhedlu yn amddiffyn rhag heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. Yn yr un modd, mae rhai ffurfiau o arferion rhyw diogel, megis dewis partner ac ymddygiad risg isel, yn ffurfiau anneffeithiol o atal genhedlu ond dylid eu hystyried mewn pob math o gyfathrach rhywiol er mwyn lleihau risg. 

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Compact Oxford English Dictionary Archifwyd 2020-03-16 yn y Peiriant Wayback., Oxford University Press, 2009, Accessed 23 September 2009