Rhyngosodiad Harcourt

Oddi ar Wicipedia
Syr William Harcourt

Roedd Rhyngosodiad Harcourt yn sgandal wleidyddol Fictoraidd lle rhoddodd gwalch o gyfansoddwr print sylw aflan i mewn i dudalen prawf ar gyfer papur newydd The Times, fel rhan o adroddiad am araith gan wleidydd amlwg. Ni sylwyd ar ychwanegiad tan ar ôl i'r argraffiad cyntaf gael ei gyhoeddi ac ni fu ymdrechion i alw'n ôl copïau o'r papur yn llwyddiannus.[1]

Yr erthygl[golygu | golygu cod]

Roedd yn arfer gan bapurau awdurdodol y cyfnod Fictoraidd i gynnwys adroddiadau hirfaith oedd yn cynnwys traws ysgrifau air am air o areithiau gwleidyddion blaenllaw. Ym mis Ionawr 1882 penderfynodd papur The Times i wneud adroddiad o'r fath ar gyfer areithiau gan y Twrnai Cyffredinol, Syr Henry James a'r Ysgrifennydd Cartref, Syr William Harcourt. Roedd Syr William yn Burton upon Trent i agor neuadd. Wrth annerch y dorf o tua 7 i 8 mil o bobl cyfeiriodd at isetholiad oedd ar fin cael ei gynnal yn Swydd Efrog. Roedd yr ymgeisydd Rhyddfrydol, Samuel Rowlandson yn denant fferm. Cyhoeddwyd adroddiad am yr araith yn rhifyn 23 Ionawr o'r papur.

Roedd cysodwyr print y Times mewn anghydfod gyda rheolwyr y papur ac wrth osod y ddalen rhoddwyd y geiriau ychwanegol (mewn testun trwm) isod i mewn i'r adroddiad:

I saw in a Tory journal the other day a note of alarm, in / which they said “Why, if a tenant-farmer is elected / for the North Riding of Yorkshire the farmers will / be a political power who will have to be reckoned with”. / The speaker then said he felt inclined for a bit of fucking. / I think that is very likely. (Laughter). But I think / it is rather an extraordinary thing that the Tory party / have not found that out before.[2]

— The Times, 23 Ionawr 1882

Canfod y rhyngosodiad[golygu | golygu cod]

Cafodd y rhyngosodiad ddim ei ganfod cyn i'r argraffiad cyntaf gael ei argraffu a'i ddosbarthu. Anfonodd y Times negeseuon telegraff brys i dynnu'n ôl pob copi heb ei werthu.[3]

Bu llawer o sôn am y camargraffu ac roedd llawer o bobl yn frwd i gael copi o'r papur. Bu'r galw mawr am gopïau wedi'i gyfuno â'r cyflenwad cyfyngedig (o ganlyniad i ymdrechion The Times i dynnu'n ôl pob copi oedd yn ei gynnwys) i godi pris marchnad y rhifynnau oedd yn ei gynnwys. Bu papur newydd gyda phris clawr o 3d (1.5c) yn newid dwylo am 12 swllt a 6d (66c) erbyn canol y bore. Nododd Syr Edward Walter Hamilton yn ei ddyddiadur ar 26 Ionawr bod copïau yn gwerthu "am bob math o brisiau ffansi" a dywedodd fod yr Arglwydd Wolverton wedi dweud wrtho eu bod yn cael eu gwerthu am 20 swllt (£1) yn Brighton ar 25 Ionawr. Adroddodd y Dublin Freeman's Journal bod £ 5 yn cael ei gynnig ar gyfer copïau.

Ymddiheuriad[golygu | golygu cod]

Argraffwyd copi diwygiedig ar gyfer tanysgrifwyr ac ar gyfer llyfrgelloedd a oedd yn cadw copïau rhwymedig, ond ni ysgrifennodd The Times ddim mwy am y digwyddiad ar y pryd. Nododd Syr Edward Walter Hamilton ar 26 Ionawr nad oedd Syr William Harcourt wedi derbyn ymddiheuriad, ac ysgrifennodd "Ni fydd Harcourt byth yn clywed ei ddiwedd" (er bod Hamilton yn meddwl bod y stori yn ddiddorol iawn). Fodd bynnag ymddangosodd ymddiheuriad am y digwyddiad ar ddydd Gwener 27 Ionawr 1882:

Nid oes dim trafferth yn cael ei arbed gan y rhai sydd yn llywodraethu y newyddiadur hwn i ddarganfod awdur y weithred anfad a gyflawnwyd trwy chwanegiad twyllodrus o linell yn araith Syr William Harcourt, yr hwn a ymddangosodd yn ein rhifyn am ddydd Llun. Y mae y mater yn awr o dan ymchwiliad cyfreithiol, a gobeithio y bydd i gyflawnydd y weithred gael ei gospi.

[4]

— The Times, 27 Ionawr 1882 (cyfieithiad yn Baner ac Amserau Cymru).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Bob Clarke, "From Grub Street to Fleet Street: an illustrated history of English Newspapers to 1899", Ashgate Publishing, 2004, tud. 240-1
  2. The Times: 7, col. 4, 23 January 1882
  3. "THE PRACTICAL JOKE ON THE TIMES - The Western Mail". Abel Nadin. 1882-01-25. Cyrchwyd 2018-09-23.
  4. "GWEITHRED WARTHUS MEWN NEWYDDIADUR - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1882-02-01. Cyrchwyd 2018-09-23.