Rhyfeloedd y Boer

Oddi ar Wicipedia
Boers 1881.png
Boeriaid yn ymladd (1881)
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolrhyfel Edit this on Wikidata
Dyddiad11 Hydref 1899 Edit this on Wikidata
LleoliadDe Affrica Edit this on Wikidata
Yn cynnwysAil Ryfel y Boer, Rhyfel Cyntaf y Boer, Free State Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfeiria Rhyfeloedd y Boer, hefyd Rhyfeloedd De Affrica, ar ddau ryfel a ymladdwyd yn Ne Affrica rhwng yr Ymerodraeth Brydeinig a gweriniaethau y Boeriaid, Y Weriniaeth Rydd Oren a Gweriniaeth y Transvaal, gweriniaethau oedd wedi eu sefydlu gan y Voortrekkers.

Mae cyfeiriad ar "Ryfel y Boer" neu "Ryfel De Affrica" fel rheol yn cyfeirio ar yr ail o'r rhyfeloedd hyn.

Rhyfel Cyntaf y Boer[golygu | golygu cod]

Ymladdwyd Rhyfel Cyntaf y Boer neu Ryfel y transvaal rhwng 1880 a 1881). Ceisiodd yr Ymerodraeth Brydeinig feddiannu'r Transvaal, ond llwyddodd y Boeriaid i'w gwrthsefyll ac ail-sefydlu gweriniaeth annibynnol.

Ail Ryfel y Boer[golygu | golygu cod]

Ymladdwyd Ail Ryfel y Boer rhwng 1899 a 1902. Ceisiodd yr Ymerodraeth Brydeinig feddiannu tiriogaethau'r gweriniaethau annibynnol, a defnyddiwyd llawr mwy o filwyr na'r tro cyntaf. Disgwylid y byddai'r rhyfel drosodd mewn ychydig fisoedd, ond llwyddodd y Boeriaid i wrthsefyll byddinoedd yr ymerodraeth am dair blynedd. Yn y diwedd, ymgorfforwyd y gweriniaethau yn yr Ymerodraeth Brydeinig.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Beck, Roger B. (2000). The History of South Africa. Westport, CT: Greenwood. ISBN 0-313-30730-X.
  • Davenport, T. R. H., and Christopher Saunders (2000). South Africa: A Modern History, 5th ed. Palgrave Macmillan. ISBN 0-312-23376-0.
  • Jackson, Tabitha (1999). The Boer War. Basingstoke, U.K.: Channel 4 Books/Macmillan. ISBN 0-7522-1702-X.
  • Judd, Denis, and Keith Surridge (2003). The Boer War. Basingstoke, U.K.: Palgrave Macmillan. ISBN 0-7195-6169-8 (paperback).
  • Pakenham, Thomas (1979). The Boer War. New York: Random House. ISBN 0-394-42742-4.
  • Plaatje, Sol T. (1990). Mafeking Diary: A Black Man’s View of a White Man's War. Ohio University Press. ISBN 0-8214-0944-1.
  • Reitz, Deneys (1930). Commando: A Boer Journal of the Boer War. Llundain: Faber and Faber. ISBN 1-4326-1223-9 (2005 reissue).
  • van Hartesveldt, Fred R. (2000). The Boer War. Greenwood Press. ISBN 0-313-30627-3.