Neidio i'r cynnwys

Rhyfel y Vendée

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Rhyfel Vendée)
Rhyfel y Vendée
Enghraifft o:rhyfel cartref Edit this on Wikidata
Rhan oRhyfel y Glymblaid Gyntaf Edit this on Wikidata
Dechreuwyd3 Mawrth 1793 Edit this on Wikidata
Daeth i ben16 Gorffennaf 1796 Edit this on Wikidata
LleoliadVendée Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Weriniaeth Ffrengig Gyntaf Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/03mf6p edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Henri de La Rochejacquelein ym Mrwydr Cholet yn 1793 gan Paul-Émile Boutigny

Rhyfel y Vendée (Ffrangeg: Guerre de Vendée) yw'r enw a roddir ar y gwrthryfel yn ardal y Vendée yng ngorllewin Ffrainc yng nghyfnod y Chwyldro Ffrengig.

Dechreuodd yr ymladd yn 1793, yn rhannol oherwydd fod cyfran helaeth o boblogaeth yr ardal yma yn gwrthwynebu polisi arweinwyr y Chwyldro o elyniaeth tuag at yr Eglwys Gatholig. Cafodd y gwrthryfelwyr nifer o fuddugoliaethau ar y cychwyn, ond roedd eu prif fyddin wedi ei gorchfygu erbyn diwedd 1793. Fodd bynnag, parhaodd yr ymladd hyd o leiaf 1796. Lladdwyd nifer fawr o bobl yn y Vendée yn dilyn y gwrthryfel, er fod dadl ymhlith haneswyr ynghylch y nifer.