Rhydwilym Capel y Bedyddwyr
Gwedd
| Math | eglwys, capel |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Clunderwen |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 60.5 metr |
| Cyfesurynnau | 51.890591°N 4.741843°W |
| Cod post | SA66 7QJ |
![]() | |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II, Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Manylion | |

Mae Rhydwilym yn un o gapeli cynharaf y Bedyddwyr, yng nghefngwlad Sir Benfro, gorllewin Cymru. Fe'i corfforwyd yn 1668 ac fe adeiladwyd y capel cyntaf yn 1701 a adeildwyd trwy gefnogaeth John Evans, Llwyndŵr. Helaethwyd y capel yn 1763 a chodwyd capel newydd yn 1841. Codwyd yr un presennol yn 1875.
Yn lobi y capel presennol mae carreg o'r adeilad gwreiddiol gyda'r geiriau canlynol wedi eu torri arni:
- JOHN EVANS O LLWYNDWR GOSTODD
- GWNEUTHUR.Y.TY. HWN ANNO DOM 1701
- GAN DDYMUNO. Y. TY. HUN . Y. USE. Y
- BOBLE BYTH. SY. N. DALA Y. vi GWUDDOR
- SY. N. Y. vi OR. HEBRE. 1.2
Cyfeiriad at Y Llythyr at yr Hebreaid, Pennod 1, adnod 2, yn y Testament Newydd, sydd yn y llinell olaf.
Ymfudodd 16 o'r aelodau i Delaware, UDA, yn 1701 a sefydlu eglwys yno.
Gweinidogion Rhydwilym
[golygu | golygu cod]- Gabriel Rees
- Thomas Jones
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Owen, D. Huw, Capeli Cymru (Talybont: Y Lolfa, 2005), tt.171–2
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan Rhydwilym Archifwyd 2013-12-06 yn y Peiriant Wayback
