Rhyddid gwybodaeth

Oddi ar Wicipedia

Mae rhyddid gwybodaeth yn cyfeirio at ddiogelwch yr hawl i ryddid mynegiant o ran y rhyngrwyd a thechnoleg gwybodaeth. Mae rhyddid gwybodaeth hefyd yn ymwneud â sensoriaeth yng nghyd-destun technoleg gwybodaeth, h.y. y gallu i gyrchu cynnwys y we heb sensoriaeth neu gyfyngiadau.

Mae rhyddid gwybodaeth yn ehangiad o'r rhyddid i lefaru, hawl dynol sylfaenol cydnabyddedig yng nghyfraith ryngwladol, sydd heddiw yn cael ei ddeall yn gyffredinol fel rhyddid mynegiant mewn unrhyw gyfrwng; ar lafar, yn ysgrifenedig, trwy'r rhyngrwyd neu drwy ffurf gelf. Golyga hyn fod diogelwch y rhyddid i lefaru fel hawl yn cynnwys nid y cynnwys yn unig, ond hefyd y modd o fynegi. Gall rhyddid gwybodaeth hefyd cyfeirio at yr hawl i breifatrwydd yng nghyd-destun y rhyngrwyd a thechnoleg gwybodaeth. Fel yr hawl i ryddid mynegiant, mae'r hawl i breifatrwydd yn hawl dynol cydnabyddedig ac mae rhyddid gwybodaeth yn ehangiad o'r hawl hwn.