Rhuddiad
Gwedd
| Enghraifft o: | deddf ffiseg |
|---|---|
| Math | maint corfforol |
| Y gwrthwyneb | blueshift |
| Yn cynnwys | photometric redshift, spectroscopic redshift |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/06jyj |
| Thesawrws y BNCF | 32079 |
| Quora | Red-shift-1 |
Mewn ffiseg neu seryddiaeth, mae rhuddiad yn digwydd pan mae ymbelydredd electromagnetig- gan amlaf golau gweladwy sy'n cael ei adlewyrchu gan wrthrych yn symud tua'r ochor lai egnïol y sbectrwm, sef yr ochor goch oherwydd yr effaith doppler. Yn fwy cyffredin, mae rhuddiad yn cael ei ddiffinio fel cynnydd yn nhonfedd ymbelydredd electromagnetig i gymharu efo tonfedd y ffynhonnell. Mae'r cynnydd yma yn digwydd oherwydd y gostyngiad yn amledd yr ymbelydredd. I'r gwrthwyneb, mae gostyngiad yn y donfedd yn cael ei alw'n blue shift.

Mae gwyddonwyr yn gwybod bod y bydysawd yn ehangu oherwydd bod tonfeddau golau'r galaethau pell yn cynyddu, sy'n awgrymu bod nhw'n symud i ffwrdd ar buaneddau uchel iawn.