Rhewgell
Gwedd
Math | major appliance ![]() |
---|---|
![]() |
Peiriant a ddefnyddir i rewi a chadw bwyd yw rhewgell, neu weithiau cwpwrdd rhew. Mae'n gweithio yn yr un ffordd ag oergell ond bod y tymheredd yn oerach. Fel arfer, bydd rhewgell yn y cartref yn cael ei chynnal ar dymheredd rhwng -23 a -18 gradd canradd. Mae bwyd sy'n cael ei gadw ar dymheredd o -18°C neu'n oerach yn ddiogel i'w gadw am gyfnod amhenodol.[1]
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/25/Bosch_Electronic_no_frost_fridge_freezer_%282019%29_05.jpg/220px-Bosch_Electronic_no_frost_fridge_freezer_%282019%29_05.jpg)
Mae rhai rhewgelloedd cartref yn uned sy'n rhan o'r oergell, neu gallant fod yn ddyfais ar wahân. Gall rhewgelloedd unigol fod ar ffurf debyg i oergell (cwpwrdd rhew), neu ar ffurf cist (cist rew). Yng ngheginau bwytai a gwestai, mae rhewgell yn tueddu i fod yn llawer mwy, a gall fod yn ystafell sy'n ddigon mawr i fynd i mewn iddi.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Freezing and food safety" (yn Saesneg). USDA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Medi 2013. Cyrchwyd 6 Awst 2013.