Rheolaeth awyrennol
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
- Efallai eich bod yn chwilio am rheolaeth traffig yr awyr.

F-22 Raptor o Awyrlu yr Unol Daleithiau, awyren frwydro stealth a ddyluniwyd i geisio ennill goruchafiaeth awyrennol.
Yn rhyfela awyrennol ceir tair lefel o fesur rheolaeth awyrennol neu uchafiaeth awyrennol gan ochrau'r brwydro.
Lluoedd cyfeillgar | Lluoedd y gelyn |
---|---|
Goruchafiaeth awyrennol | Analluedd awyrennol |
Rhagoriaeth awyrennol | Gwrthodiad neu rwystrad awyrennol |
Cydraddoldeb awyrennol | Cydraddoldeb awyrennol |
Ystyr goruchafiaeth awyrennol yw rheolaeth lwyr o'r awyr. Sefyllfa ffafriol o ran rheolaeth yw rhagoriaeth awyrennol, er nad yw'r gelyn yn y sefyllfa hon yn hollol analluog. Mewn sefyllfa o gydraddoldeb awyr, mae gan y ddwy ochr reolaeth o'r awyr uwchben lluoedd eu hunain.