Rhyfela awyrennol

Plymfomwyr SBD-3 Dauntless Douglas Americanaidd o'r USS Hornet am ymosod ar y criwser Japaneaidd Mikuma am drydydd dro yn ystod Brwydr Midway, 6 Mehefin 1942.
Defnyddio awyrennau milwrol wrth ryfela yw rhyfela awyrennol. Gall gymryd amryw o ffurfiau, megis targedu galluoedd milwrol y gelyn, sef bomio tactegol; targedu galluoedd economaidd y gelyn, sef bomio strategol; cefnogi lluoedd tir ar y maes brwydr; neu frwydro dros reolaeth awyr yr ardal frwydro yn erbyn awyrennau'r gelyn (sy'n cynnwys ysgarmesu awyrennau).
