Rheilffyrdd Treftadaeth Cambrian

Oddi ar Wicipedia
Gorsaf reilffordd Croesoswallt
Trên nwyddau y rheilffordd

Mae Rheilffyrdd Treftadaeth Cambrian yn rheilffordd treftadaeth sydd ar hyn o bryd yn ddwy linell ar wahan; mae un yn rhedeg rhwng Gorsaf reilffordd Croesoswallt a Gorsaf reilffordd Cei Weston, a’r llall yn rhedeg o orsaf reilffordd De Llynclys. Mae bwriad i uno’r dwy linell i greu un reilffordd 5 milltir o hyd.[1] Ffurfiwyd y rheiffyrdd gan uno Cymdeithas Rheilffyrdd Cambrian ac Ymddiriedolaeth Rheilffyrdd Cambrian yn 2009.[2] My ganddynt amgueddfa yn hen ddepo nwyddau Gorsaf reilffordd Croesoswallt.

Mae’r rheilffyrdd i gyd yn Lloegr, yn agos i’r ffin gyda Chymru, ond roedd mwyafrif Rheilffordd y Cambrian yng Nghymru. Mae gan rhai rheilffyrdd treftadaeth yng Nghymru – Rheilffordd Dyffryn Rheidol, Rheilffordd y Trallwng a Llanfair, Rheilffordd Ffestiniog a Rheilffordd Treftadaeth Ucheldir Cymru - gysylltiadau hanesyddol â’r Cambrian. Hysbysebir y Rheilffyrdd Treftadaeth Cambrian dros Gymru, ac mae'n cynnwys elfennau pwysig o hanes rheilffordd y wlad.

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd cymdeithas y rheilffyrdd ym 1972, a llogwyd iard nwyddau Croesoswallt a bocs signal De Croesoswallt. Crëwyd amgueddfa yn y sied nwyddau, ac roedd gan y gymdeithas sawl locomotif stêm a diesel yn ogystal â cherbydau. Ym 1997, cytunodd British Rail i ganiatáu, o dan bŵerau rheilffordd ysgafn, trenau ar drac 300 medr o hyd. Prynodd y gymdeithas iard a sied nwyddau Cei Weston gyda help y Gronfa Loteri Treftadaeth. Pan ddaeth trenau chwarel i ben ym 1988, cytunodd Rheilffordd Brydeinig i ganiatáu trenau heb deithwyr ar gangen Blodwel.[3] Ffurfiwyd Ymddiriedolaeth Rheilffyrdd Cambrian ym 1998 i sicrhau perchnogaeth y cledrau ac aildechrau rhedeg trenau rhwng Gobowen a Blodwel. Wedi cwblhau ei rôl, byddai'r ymddiriedolaeth yn trosglwyddo’r gytundeb er mwyn i’r gymdeithas redeg trenau. Cytunodd yr ymddiriedolaeth brynu’r cledrau oddi wrth Railtrack ym 1997 a chafwyd caniatád cynllunio erbyn 2001.[4] Ond disodlwyd Railtrack gan Network Rail, a daeth stop i’r trafodaethau. Sefydlwyd safle newydd yng nghyffordd Llandu ar gangen Nantmawr[5]

Cynigwyd ryddfraint trac y rheilffordd rhwng Llynclys a Phant. Derbynwyd grant ewropeaidd, prynwyd y trac gan Gyngor Croesoswallt ac ei logwyd i’r ymddiriedolaeth. Ail-osodwyd y cledrau dros 2003/4 a dechreodd trenau o 2005 ymlaen. Derbynwyd grantiau eraill o DEFRA ac Ewrop, ac adeildwyd gorsaf De Lynclys.[6]

Prynwyd Gorsaf reilffordd Croesoswallt gan Gyngor Croesoswallt yn 2005, a chrewyd canolfannau ymwelwyr a busnes. Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Gorsaf Croesoswallt i reoli’r adeilad a dosbarthu gwybodaeth. Derbynwyd grant gan ymddiriedolaeth y reilffordd i ail-sefydlu’r rheilffordd rhwng Gobowen, Llynclys a Blodwel.[7]

Crewyd ymddiriedolaeth newydd yn 2009, yn cyfuno Ymddiriedolaeth y Rheilffyrdd Cambrian, Cymdeithas Rheilffordd y Cambrian ac Ymddiriedolaeth Adeilad Gorsaf Reilffordd Croesoswallt. I greu Rheilffyrdd Treftadaeth Cambrian.[8]

Gwaith[golygu | golygu cod]

Mae trenau’n rhedeg ar linell yn Nghroesoswallt a llinell arall ar y gangen rhwng De Lynclys a Phant. Symudwyd yr amgueddfa i orsaf reilffordd Croesoswallt, ac atgyweirir locomotifau a cherbydau yn yr hen sied nwyddau. Yn defnyddio grant o £22,000 oddi wrth Cronfa Cyfleusterau i Ymwelwyr y dref, atgyweiriwyd bocs signal De Croesoswallt.[9]

Estyniadau[golygu | golygu cod]

Mae’r rheilfordd yn trwsio ac yn estyn y cledrau’n ogleddol o Lynclys at Groesoswallt er mwyn cyrraedd pencadlys y rheilffordd. Cliriwyd safle’r croesfan lefel ar draws yr A483 yn Weston, ac roedd ymweliad gan Arolygwyr frenhinol y rheilffyrdd. Mae partion gwaith wedi canolbwyntio ar gyrion ystad tai Dolgoch rhwng Porth-y-Waen a Llynclys, a’r bont dros yr A483 yno.

Croesoswallt-Cei Weston[golygu | golygu cod]

Mae gwaith wedi mynd ymlaen i gysylltu Croesoswallt a Weston, lle mae bragdy crefft a stad dywidiannol.Roedd rhaid gwneud gwaith ar sail y rheilffordd, adeiladu pont newydd yn ymyl Ffordd Middleton ar gyfer cerddwyr a cyfnewid trawstiau ger Travis Perkins. Gosodwyd y cledrau’r holl ffordd i Weston. Cwblhawyd yr estyniad, agorwyd ar 2 Ebrill 2022.[10][11]

Deddf Trafnidiaeth a Gwaith[golygu | golygu cod]

Derbynwyd awdurdod o dan y ddeddf ar 28 Chwefror 2017, sy’n caniatáu ailagor y rheilffordd rhwng Gobowen a Chwarel Blodwel. Mae’n rhaid adeiladu twnnel a phont i ddisodli’r croesfannau gwastad dros yr A5 ac A483.[12]

Gorsafoedd y rheilffyrdd[golygu | golygu cod]

Locomotifau[golygu | golygu cod]

  • Stêm
  • Andrew Barclay 0-6-0ST "The Barclay" rhif 885 o 1900. Mewn storfa yng Nghroesoswallt.
  • Peckett 0-4-0ST "Adam" rhif. 1430 o 1916. Mewn storfa yng Nghroesoswallt.
  • Peckett/Beyer Peacock 0-4-0ST "Oliver Veltom" nrhif 2131 o 1951. Arddangosir yn Amgueddfa Rheilffyrdd Cambrian. Atgyweirir yng Nghroesoswallt.
  • Andrew Barclay 0-4-0ST "Henry Ellison" rhif 2217 o 1947. Gweithredol yng Nghroesoswallt. Cyrhaeddodd Oswestry, ar fenthyg o from Reilffordd Dyffryn Ecclesbourne ym Mawrth 2022.
  • Andrew Barclay 0-4-0ST "Fife Flyer Rhif 6," rhif 2261 o 1949. Disgwyl am atgyweirio yng Nghroesoswallt; Cyrhaeddodd o Rheilffordd Stêm Ribble yn Awst 2016.
  • Hunslet0-6-0ST 0-6-0ST "Norma"; rhif 3770 o 1952. Arddangosir yn Amgueddfa Rheilffyrdd Cambrian. Disgwyl am gyllid i atgyweirio.
  • Locomotifau diesel
  • Hudswell 0-4-0DM rhif. D893, 1951. Arddargosir, ac atgyweirir yn raddol, yn Amgueddfa Rheilffordd Cambrian.
  • BR 0-6-0 Dosbarth Rheilffordd Brydeinig 08 rhif D3019, 1953. Atgyweirir yn Llynclys.
  • Vulcan 0-4-0 "Telemon" rhif 295, 1955. Gweithredol yn Llynclys.
  • Ruston a Hornsby 0-4-0DM "Scottie", rhif 412427, 1957; yn gymharach, rhif 1. Gweithredol yng Nghroesoswallt.
  • Planet 0-4-0 Diesel-hydrolig "Alpha", rhif 3953, 1962. Gweithredol yn y iard, Croesoswallt.
  • Ruston a Hornsby 0-4-0DE "Alun Evans" rhif 11517, 1963. Gweithredol yng Nghroesoswallt.
  • English Electric 0-6-0DH "Jana" rhif D1201, 1969.Mewn storfa, Llynclys.
  • English Electric 0-6-0DH rhif D1230, 1969. Known as 'Kimberley' by previous owners but no plates carried. Gweithredol yn Llynclys.
  • F. C. Hibberd a chwmni Cyf. 0-4-0 "Cyril", rhif 3541, 1952. Gweithredol. Dychwelodd o Nantmawr, Reilffordd Ysgafn Dyffryn Tanat ym Mawrth 2018 from Tanat Valley Light Railway.
  • Unedau diesel
  • Dosbarth 101 rhifau 51205 a 54055, rhifau 51187a51512, 1957-1959. Atgyweirir51205; atgyfodir 54055 (yn wreiddiol 56055). Mae 51187 a 51512 yn gweithio yn Llynclys.
  • Dosbarth 144]] rhifau 144006 (55806 a 55829), a 144007 (55807 a 55830). 144006 yn gweithio yng Nghroesoswallt, a 144007 mewn storfa yn Weston.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan y rheilffyrdd
  2. Gwefan y rheilffyrdd[dolen marw]
  3. "Gwefan y rheilffyrdd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-09-22. Cyrchwyd 2022-08-19.
  4. "Gwefan y rheilffyrdd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-09-22. Cyrchwyd 2022-08-19.
  5. "Gwefan y rheilffyrdd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-09-22. Cyrchwyd 2022-08-19.
  6. "Gwefan y rheilffyrdd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-09-22. Cyrchwyd 2022-08-19.
  7. "Gwefan y rheilffyrdd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-09-22. Cyrchwyd 2022-08-19.
  8. "Gwefan y rheilffyrdd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-03-22. Cyrchwyd 2022-09-22.
  9. Gwefan cymdeithas y rheilffordd
  10. Gwefan Shropshire Live
  11. Gwefan BBC
  12. [https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/595431/cambrian-railway-decision-letter.pdf Llythyr penderfyniad yr Adran Trafnidiaeth}}

Dolen allanol[golygu | golygu cod]