Rheilffordd ysgafn Weston, Clevedon a Portishead

Oddi ar Wicipedia

Cynlluniwyd Rheilffordd ysgafn Weston, Clevedon a Portishead, 14 milltir o hyd, o led safonol, i gysylltu'r dair tref hyn ym 1884. Pasiwyd deddf ar 5 Awst 1885 a dechreuodd gwaith adeiladu ym 1887, ond aeth popeth mor araf, roedd angen deddfau eraill yng Ngorffennaf 1890 a Rhagfyr 1891. Agorwyd y rhan rhwng Weston-super-Mare a Clevedon ar 1 Rhagfyr 1897. Roedd angen dyn efo baner goch i arwain trenau trwy strydoedd y dref. Agorwyd y lein ar 7 Awst 1907.

Roedd angen deddf newyd, pasiwyd ym mis Awst 1899, cyn adeiladu'r estyniad i Portishead.

Roedd cysylltiadau i Reilffordd y Great Western yn Clevedon a Portishead. Daeth Cyrnol Holman Fred Stephens yn Rheolwr Traffig ym 1911, ac wedyn Peiriannydd, Goruwchwilwr Locomotifau a Rheolwr Cyffredin. Adeiladwyd cangen i gei ar Afon Yeo yn Wick St Lawrence ym 1915. Roedd hefyd seidins i wasanaethu 3 chwarel yn nyffryn Gordano. Bu farw'r cyrnol ym 1931, a chymerodd W H Austen drosodd.

Doedd y rheilffordd ddim yn llwyddiannus, a chauwyd y lein ar 18 Mai 1940. Prynwyd y lein gan Reilffordd y Great Western]] as storiwyd 200 wagen nwyddau arni am sbel. Sgrapiwyd y cledrau ym 1942 a 1943.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]