Rheilffordd Zig Zag

Oddi ar Wicipedia

Mae’r Rheilffordd Zig Zag yn Rheilffordd Dreftadaeth yn Awstralia, ger Lithgow yn Ne Cymru Newydd. Mae’r rheilffordd yn defnyddio ‘zig zags’ er mwyn dringo llethrau gorllewinol y Mynyddoedd Glas. Disodlwyd y rheilffordd fel rhan o o reilffordd y dalaith gan dwnel trwy’r mynyddoedd, ond ail-agorwyd y rheilffordd fel rheilffordd dreftadaeth ym mis Hydref 1975 gan gwmni cydweithiol, sef Zig Zag Railway Co-op. Ltd

Caewyd y rheilffordd yn 2012 oherwydd problemau gweinyddol, ond cyn ail-agoriad y rheilffordd, difrodwyd y rheilffordd gan dân yn 2013 ac wedyn gan lifogydd. Roedd tân arall yn 2015 ac dydy’r rheilffordd ddim wedi ail-agor hyd yn hyn.[1][2][3]

Locomotifau[golygu | golygu cod]

Locomotifau stêm[golygu | golygu cod]

Rhif ac enw Dsgrifiad Statws Lliw
218 The Yank Dosbarth AC16 Rheilffordd Queensland 2-8-2 Gweithredol. Adferwyd yn 2017 Du
934 Dosbarth C17 Rheilffordd Queensland 4-8-0 Disgwyl am adferiad. Coch
966 City of Rockhampton Dosbarth C17 Rheilffordd Queensland 4-8-0 Arddangosir Du
1046 Dosbarth DD17 Rheilffordd Queensland 4-6-4T Datgymalwyd; mewn storfa. Glas
1047 Dosbarth DD17 Rheilffordd Queensland 4-6-4T Disgwyl am atgywiriad. Gwyrdd
1049 Stormin' Normin Dosbarth DD17 Rheilffordd Queensland 4-6-4T Adferwyd gan Goleg Hyfforddi Dyffryn Hunte, Penrith ym 1994; yn disgwyl am atgywiriad. Glas
1072 City of Lithgow Dosbarth BB18¼ Rheilffordd Queensland 4-6-2 Adferir Du
402 Garratt 4-8-2+2-8-4 Dosbarth 400 Rheilffordd De Awstralia 4-6-4T Arddangosir Gwyrdd

Locomotifau diesel[golygu | golygu cod]

Rhif ac enw Disgrifiad Statws
1003 Dosbarth 10 Rheilffordd Bae Emu Prynwyd i fod yn ffynhonnell sbarion i rif 1004, Mawrth 2001.
1004 “Emu Bay” Dosbarth 10 Rheilffordd Bae Emu Gweithredol. Prynwyd Mawrth 2001
5802 Mwyngloddiau Mynydd Isa Gweithredol

Cerbydau diesel[golygu | golygu cod]

Rhif Disgrifiad Statws
2006, 2011, 2051 Dosbarth 2000 Rheilffordd Queensland Atgyweirir
2020, 2008 Dosbarth 2000 Rheilffordd Queensland Disgwyl am atgyweiriad
2016, 2055 Dosbarth 2000 Rheilffordd Queensland Llosgwyd yn 2013

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Holliday, Rebekah. "Fire tears through iconic Zig Zag Railway". Sydney Morning Herald. Cyrchwyd 19 Hydref 2013.
  2. Zig Zag Railway Zig Zag Railway adalwyd 13 Ionawr 2015
  3. Zig Zag Railway battling adversity to finally get itself back on track Blue Mountains gazette 20 Ionawr 2015

Dolen allanol[golygu | golygu cod]