Rheilffordd Ysgafn Cranbrook a Paddock Wood

Oddi ar Wicipedia
Rheilffordd Ysgafn Cranbrook a Paddock Wood
Enghraifft o'r canlynolbranch line, ELR railway line section Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthCaint Edit this on Wikidata
Hyd11.35 milltir Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Adeiladwyd Rheilffordd Ysgafn Cranbrook a Paddocks Wood rhwng 1890 a 1894.

Prif beiriannydd i'r rheilffordd oedd Edward Seaton ac oedd Cyrnol Holman Fred Stephens yn beirianydd preswyl. Roedd o'n 22 oed, a newydd orffen prentisiarth efo Rheilffordd Metropolitan[1]. Aeth y lein o Paddock Wood i Hawkhurst yn Swydd Caint. Agorwyd y lein ym 1893, a chaewyd ym 1961.

Agorwyd y lein rhwng Paddock Wood a Goudhurst ar 1 Hydref 1892, er bod gwasanaeth i deithwyr a nwyddau wedi dechrau ar 23 Medi. Estynnwyd y lein o Goudhurst i Hawkhurst ar 4 Medi 1895. Ni gyrhaeddodd y lein Cranbrook erioed. Daeth y rheilffordd yn rhan o'r Rheilffordd De Ddwyrain ar 29 Ionawr 1900.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gwefan John Speller". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2015-10-11.
  2. Tudalen y rheilffordd ar wefan Cymdeithas Cyrnol Stephens