Rheilffordd Whitby a Pickering

Oddi ar Wicipedia
Gorsaf reilffordd Pickering

Adeiladwyd Rheilffordd Whitby a Pickering Railway i hyrwyddo datblygiad y dref Whitby ac yr ardal cyfagos gan eu cysylltu â gweddill y wlad.

Gofynnwyd George Stephenson i ysgryfenni adroddiad ar reilffordd rhwng Whitby a Stockton neu Pickering ym 1832., a cymeradwyodd rheilffordd i Pickering a’r defnydd o geffylau i dynnu trenau. Ffurfiwyd pwyllgor, a phasiwyd deddf ar 6 Mai 1833 i adeiladu Rheilffordd Whitby a Pickering. Y bwriad oedd estyn y rheilffordd o Pickering i Efrog.Prif nwyddau’r rheilffordd oedd glo, cerrig, pren a chalchfaen, ond prynwyd cerbydau ar gyfer teithwyr hefyd. Prynwyd cledrau o weithiau haearn yn Stourbridge, Birmingham, Nantyglo a Bedlington.

Agorwyd y lein rhwng Whitby a Tunnel inn (erbyn hyn Gorsaf reilffordd Grosmont) ar 8 Mehefin, 1835.

Crewyd diwydiant newydd oherwydd y rheilffordd, gan gynnwys chwarel yn Lease Rigg, odyn calchfaen yn Grosmont, yn defnyddio calchfaen o Pickering a glo o Whitby. Darganfuwyd haearnfaen tra adeiladu’r rheilffordd, ac agorwyd pyllau yn ymyl Beckhole.

Roedd Stephenson peiriaannydd y cwmni, a chynlluniodd o’r twnnel gwreiddiol yn Grosmont ar gyfer y lein wreiddiol y defnyddiodd ceffylau. Defnyddir y twnnel hyd at heddiw gan ymwelwyr i’r depo locomotifau.[1]

Erbyn hyn mae Rheilffordd Rhosydd Gogledd Swydd Efrog yn cynnig gwasanaeth stêm rhwng Grosmont a Pickering ac mae rhai trenau’n mynd ymlaen o Grosmont i Whitby.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]