Rheilffordd Rhosydd Gogledd Swydd Efrog
Rheilffordd Rhosydd Gogledd Swydd Efrog | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|






Mae'r Rheilfordd Rhosydd Gogledd Swydd Efrog yn rheilffordd dreftadaeth 18 milltir o hyd, rhwng Pickering a Grosmont ym Mharc Genedlaethol Rhosydd Swydd Efrog. Mae rhai o'i threnau'n mynd ymlaen o Grosmont hyd at Whitby.


Hanes[golygu | golygu cod]
Rheilffordd Whitby a Pickering[golygu | golygu cod]
Gofynnwyd George Stephenson i ysgryfenni adroddiad ar reilffordd rhwng Whitby a Stockton neu Pickering ym 1832., a cymeradwyodd rheilffordd i Pickering a’r defnydd o geffylau i dynnu trenau[1]. Ffurfiwyd pwyllgor, a phasiwyd deddf ar 6 Mai 1833 i adeiladu Rheilffordd Whitby a Pickering. Y bwriad oedd estyn y rheilffordd o Pickering i Efrog.
Prif bwrpas y rheilffordd oedd clydiant o lo, cerrig, pren a chalchfaen[2], ond prynwyd cerbydau ar gyfer teithwyr hefyd. Prynwyd cledrau o weithiau haearn yn Stourbridge, Birmingham, Nantyglo a Bedlington.
Agorwyd y lein rhwng Whitby a Tunnel inn (erbyn hyn Gorsaf reilffordd Grosmont) ar 8 Mehefin, 1835.
Crëwyd diwydiant newydd oherwydd y rheilffordd, gan gynnwys chwarel yn Lease Rigg, odyn calchfaen yn Grosmont, yn defnyddio calchfaen o Pickering a glo o Whitby. Darganfuwyd haearnfaen tra adeiladu’r rheilffordd, ac agorwyd pyllau yn ymyl Beckhole.
Roedd Stephenson peiriannydd y cwmni, a chynlluniodd o’r twnnel gwreiddiol yn Grosmont ar gyfer y lein wreiddiol y defnyddiodd ceffylau. Defnyddir y twnnel hyd at heddiw gan ymwelwyr i’r depo locomotifau.[3]
Rheilffordd Efrog a Gogledd Canolbarth[golygu | golygu cod]
Roedd hi’n un o reilffyrdd George Hudson, a daeth Rheilffordd Whitby a Pickering yn rhan ohoni ym 1845, a daeth hi’n haws teithio o bell i Whitby. Ffurfiodd Hudson cwmni i ddatblygu’r dref, ac ailadeiladodd o’r rheilffordd hefyd, yn ei newid o reilffordd drac sengl i un ddwbl. Cyflogwyd y pensaer George Townsend Andrews o Efrog, ac adeiladwyd gorsafoedd newydd yn Whitby, Pickering, Levisham, Goathland, Grosmont, Ruswarp a Sleights, yn ogystal â depo locomotifau newydd yn Whitby, Pickering, Goathland a Beck Hole. Adeiladwyd peiriant stêm ar oleddf Beck Hole, yn disodli sistem dŵr i godi cerbydau..[3]
Rheilffordd y Gogledd Ddwyrain[golygu | golygu cod]
Daeth y rheilffordd yn rhan Rheilffordd y Gogledd Ddwyrain ym 1854. Cafodd y rheilffordd pwerau i adeiladu lein newydd i orgoi lledf Beckhole yn y 1860au, gan gynnwys gorsaf newydd yn Goathland. Cost y lein oedd £56,000 ac agorwyd y lein ar 1 Gorffennaf, 1865. Adeiladwyd byrdd tro yn Grosmont a Pichering a sawl caban signal (a bythynnod ar gyfer y gweithwyr) yn yr 1870au, wrth greu system ‘block’ ar y lein. Ailadeiladwyd y pontydd ar y lein ym 1908.[3]
Rheilffordd Llundain a’r Gogledd Ddwyrain[golygu | golygu cod]
Daeth y lein yn rhan o Rheilffordd Llundain a’r Gogledd Ddwyrain ym 1923, hyd at gwladwriaeth y rheilffyrdd ym 1948. Llehawyd gwariant ar weithwyr yn ystod y cyfnod.[3]
Rheilffyrdd Prydeinig[golygu | golygu cod]
Cafwyd gwared o to’r orsaf yn Pickering ym 1952, ac ym 1958 caewyd depo locomotifau Pickering. Disodlwyd trenau stêm gan trenau diesel ym 1959. Ar ôl yr Adroddiad Beeching ym 1963, caewyd y lein ar 8 Mawrth 1965.[3]
Atgyfodi[golygu | golygu cod]
Ffurfiwyd cymdeithas ar 18 Tachwedd 1967, a chafwyd caniatâd i wneud gwaith cynnal a chadw, ac i redeg trenau ar gyfer ei hailodaeth. Cyflogwyd un gweithiwr llawn amser ym 1972;erbyn hyn mae 100 o weithwyr llawn amser a thua 50 rhan amser dros yr haf yn ogystal â gwirfoddolwyr.
Talwyd rhagdaliad i Reilffordd Brydeinig ar 19 Mai 1969 a rhedodd y trên gyntaf ar gyfer aelodau’r gymdeithas ar 28 Mawrth 1970. Daeth y rheilffordd yn Rheilffordd Ysgafn ym 1971. Aeth y drên stêm gyntaf o Grosmont i Pickering ar 23 Gorffennaf 1971. Daeth y gymdeithas yn ymddiriadolaeth ar 31 Rhagfyr 1971, ac yn elusen ar 14 Chwefror 1972.
Defnyddiwyd y depo locomotifau yn Grosmont ym 1973, a dechreuwyd gwasanaethau cyhoeddus rhwng Grosmont a Pickering ar 22 Ebrill 1973. Aeth y trên gyntaf rhwng Whitby a Pickering ar 11 Hydref 1987. Dechreuodd gwasanaeth rheolaidd i Whitby ar 3 Ebrill 2007.[3]
Locomotifau[golygu | golygu cod]
Locomotifau Stêm[golygu | golygu cod]
Locomotifau Diesel[golygu | golygu cod]
Rhif | Enw | Delwedd | Trefn yr Olwynion | Adeiladwyd | Adeiladwr | Nodiadau |
---|---|---|---|---|---|---|
12139 | Neil D Barker | ![]() |
0-6-0 | Darlington | Cwmni English Electric. Cynllun Rheilffordd Llundain y Canolbarth a'r Alban | Gweithiodd dros gwmni ICI, Wilton |
D5061 | - | - | Bo-Bo | Crewe | Cwmni Sulzer | |
37264 | - | - | Co-Co | Newton-le-Willows | Cwmni English Electric | Dosbarth 37 |
101680 | - | - | Birmingham | Cwmni Metro Cammell | uned diesel dosbarth 101 | |
101685 | Daisy | - | Birmingham | Cwmni Metro Cammell | uned diesel dosbarth 101 | |
D7628 | Sybilla | ![]() |
Bo-Bo | Manceinion | Cwmni Beyer Peacock | Cynllun Sulzer |
D5032 | Helen Turner | - | Bo-Bo | Crewe | Rheilffyrdd Prydeinig | Dosbarth 24 |
08556 | - | - | 0-6-0 | Darlington | Rheilffyrdd Prydeinig | Dosbarth 08 |
08550 | - | - | 0-6-0 | Rheilffyrdd Prydeinig | Dosbarth 08 |
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "Gwefan nicholasrhea.co.uk". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-18. Cyrchwyd 2017-07-13.
- ↑ Gwefan britainexpress.com
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 Tudalen hanes ar wefan y rheilffordd