Rheilffordd Otago Canolog
Math | llinell rheilffordd |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1921 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Otago |
Gwlad | Seland Newydd |
Cyfesurynnau | 45.105°S 170.071°E |
Hyd | 236 cilometr |
Perchnogaeth | KiwiRail |
Roedd y Rheilffordd Otago Canolog yn rheilffordd yn Otago, Ynys y De, Seland Newydd.
Adeiladu’r rheilffordd
[golygu | golygu cod]Dechreuwyd gwaith ym 1877, ac agorodd y darn cyntaf, 27 cilomedr hyd at Hindon, ym 1889, Cyrhaeddwyd Middlemarch ym 1891, Hyde ym 1894, Kokonga ym 1897, Ranfurly ym 1898, Wedderburn ym 1900, Dyffryn Ida ym 1901, Omakau ym 1904, Chatto Creek ac Alexandria ym 1906, Clyde ym 1907, a Cromwell ym 1921.
Caewyd yr rheilffordd rhwng Clyde a Cromwell ym 1980; Roedd Argae Clyde, yn Nyfnant Cromwell wedi creu Llyn Dunstan, yn boddi’r rheilffordd.[1]
Rheilffordd Dunedin
[golygu | golygu cod]Daeth rhan o’r hen reilffordd yn rheilffordd i dwristiaid, sef y Rheilffordd Dyfnant Taieri, sydd erbyn hyn Rheilffordd Dunedin. Mae’n mynd o Dunedin hyd at ddyfnant Taieri.
Cwrs y rheilffordd
[golygu | golygu cod]Mae’r rheilffordd yn dechrau o orsaf reilffordd Wingatui, i’r De o Gorsaf reilffordd Dunedin. Cedwyd 4 cilomedr o’r rheilffordd yno i wasanaethu diwydiannau lleol. Mae Rheilffordd Dunedin yn dechrau 4 cilomedr ar ôl iddi adael prif reilffordd Ynys y De. Mae’n codi ar radd 1:50 ac wedyn yn mynd trwy Dwnnel Salisbury, 437 medr o hyd ac wedyn twnnel byrrach, an yn croesi Mullocky Gully ar Draphont Wingatui, 197 medr o hyd, y strwythur haearn gyr mwyaf yn Seland newydd, adeiladwyd ym 1887.[2]Mae’r rheilffordd yn parhau am 25 cilomedr yn Nyfnant Taieri, yn croesi 16 pont ac yn mynd trwy 10 twnnel. Mae traphontydd eraill; Christmas Creek, Deep Stream, Flat Stream, a hefyd pont medi rhannu gyda ffordd yn ymyl Hindon. Wedyn mae 3 pont fer arall cyn gadael Dyfnant Taieri yn Pukerangi. Mae’r rheilffordd yn disgyn i wastatir Strath Taieri ac yn cyrraedd Middlemarch.[3]
Cau’r rheilffordd
[golygu | golygu cod]Defnyddiwyd y rheilffordd i symud nwyddau i adeiladu Argae Clyde. Ar ôl cwblhad yr argae, caewyd y gangen ar 30 Ebrill 1990.[4] Dymchwelwyd y rheilffordd rhwng Clyde a Middlemarch rhwng 8 Rhagfyr 1990 a 5 Rhagfyr 1991. Daeth y rheilffordd rhwng Dunedin a Middlemarch yn reilffordd i dwristiaid, wedi rheoli gan Rheilffyrdd Dunedin. Daeth y gweddill yn llwybr, yr Otago Central Rail Trail.
Locomotifau
[golygu | golygu cod]Stêm
[golygu | golygu cod]Ar y dechrau, defnyddiwyd locomotifau tanc dosbarth F. Defnyddiwyd locomotifau dosbarth R hyd at 1895, pan ddaeth locomotifau 2-8-0 dosbarth T. Defnyddiwyd hefyd locomotifau dosbarth O, P a V. Aeth y locomotifau dosbarth O i yYnys y Gogledd rhwng 1898 a 1902. Arhosodd y locomotifau dosbarth P hyd at 1915 o leiaf. Anfonwyd 10 locomotif dosbarth UB i Dunedin a gweithiasant ar y rheilffordd o’r 1900au hyd at y 1930au. Defnyddiwyd dosbarthiadau B a BA yn achlysurol. Gweithiodd locomotifau dosbarth Q yn y 1940au, a daeth locomotifau dosbarth AB ym 1936.
Diesel
[golygu | golygu cod]Roedd y rheilffordd un o rhannau cynharaf y rhwydwaith y cafodd ei redeg yn llwyr gan drenau diesel. Gadawodd y trên stêm olaf Cromwell ar 23 Chwefror 1968, er oedd 2 drên arbennig arall ar gyfer ffotograffwyr, un i Ranfurly ar 27 Hydref 1968 ac un i Middlemarch ar 5 Ebrill 1969.
Daeth locomotifau dosbarth DG a DH i’r rheilffordd ym mis Chwefror 1957, yn mynd mor bell a Clyde, hyd at 1983. Roeddent yn rhy drwm ar gyfer cledrau Dyfnant Cromwell. Cyrhaeddodd locomotifau ysgafnach dosbarth DJ ar 26 Chwefror 1958 a gadawodd olaf y locomotifau stêm Dosbarth AB ar 26 Chwefror 1968. Roedd nifer o locomotifau diesel DI rhwng 1978 a 1984, ond roedd dosbarth DJ yn fwy cyffredin.
Y cwmni preifat
[golygu | golygu cod]Mae trenau’r Rheilffordd Dyfnant Taieri ac wedyn Rheilffordd Dunedin wedi cael eu tynnu gan Locomotifau dosbarth DJ, a defnyddir cerbyd diesel ‘Silver Fern’ a locomotifau stêm dosbarth AB yn achlysurol.
Gwasanaethau i deithwyr
[golygu | golygu cod]Dechreuodd trenau i deithwyr ym 1900. Disodlwyd trenau i deithwyr gan drenau cymysg ym 1917, heblaw am drenau i deithwyr yn ystod gwyliau. Ail-ddechreuodd trenau i deithwyr ym 1936, a threnau cymysg eto ym 1951. Defnyddiwyd cerbydau diesel Vulcan dosbarth RM ym 1956, hyd at 25 Ebrill 1976.
Gorsafoedd
[golygu | golygu cod]- Wingatui
- Salisbury; caewyd Mawrth 1978
- Taioma; caewydd Tachwedd 1967
- Parera ; caewyd Awst 1967
- Mynydd Allan
- Christmas Creek; caewyd Gorffennaf 1970
- Hindon
- Deep Stream (30.9 km); caewyd Medi 1954
- Flat Stream (36.7 km) Agorwyd Chwefror 1942, caewyd Medi 1954
- The Reefs
- Pukerangi
- Matarae; caewyd Mawrth 1985
- Seidin Matarae; caewyd Rhagfyr 1960
- Sutton; caewyd Tachwedd 1986
- Gorsaf reilffordd Middlemarch
- Ngapuna; caewyd Rhagfyr 1979
- Rock and Pillar; caewyd Rhagfyr 1981
- Hyde
- Hyde Township
- Tiroiti; caewyd Ebrill 1974
- Kokonga; caewyd Awst 1985
- Waipiata; caewyd Rhagfyr 1981
- Gorsaf reilffordd Ranfurly
- Wedderburn
- Oturehua
- Dyffryn Ida
- Auripo
- Lauder; cawyd Ebrill 1985
- Omakau; caewyd Mawrth 1984
- Chatto Creek; caewyd Chwefror 1983
- Galloway; caewyd Mehefin 1978
- Alexandra
- Clyde (hen)
- Clyde (newydd)
- Doigs; caewyd Mawrth 1970
- Waenga; caewyd Mawrth 1970
- Cromwell
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Over The Garden Wall: The Story of the Otago Central Railway gan J.A.Dangerfield a G.W.Emerson; cyhoeddwr: Cymdeithas Rheilffordd a Locomotifau Otago, Dunedin; isbn=978-0-473-17363-0 ac ISBN|978-0-473-17362-3
- South Island Branch Lines (tudalennau 28-30) gan Bruce J. Hermann; cyhoeddwr Cymdeithas Rheilffordd a Locomotifau Seland Newydd, 1997; ISBN|0-908573-70-7
- The Otago Central Railway: A Tribute gan Tony Hurst; cyhoeddwr Transpress, Wellington, 2008; isbn=978-1-877418-05-1
- Exploring New Zealand's Ghost Railways’ gan David Leitch a Brian Scott; cyhoeddwyr Grantham House, 1995; isbn= 1-86934048-5
- The Beginnings of the Otago Central Railway 1870-1878; thesis gan Marris A Millar, Prifysgol Otago 1976
- New Zealand Rail Trails: A Guide to 42 Ghost Lines gan Barbara Mulligan, 2000 (tudalennau 139-145); cyhoeddwr Grantham House, Wellington; isbn= 978-1-86934-126-8
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ ’Exploring New Zealand's Ghost Railways’ gan David Leitch a Brian Scott; cyhoeddwyr Grantham House, 1995; isbn= 1-86934048-5
- ↑ Gwefan Rheilffordd Dyfnant Taieri
- ↑ ’Exploring New Zealand's Ghost Railways’ gan David Leitch a Brian Scott; cyhoeddwyr Grantham House, 1995; isbn= 1-86934048-5
- ↑ New Zealand Railway Observer, Haf 1989–90’Otago Central Railway Closure’