Rheilffordd Northern Pacific
![]() | |
| Enghraifft o: | cwmni cludo nwyddau neu bobl, transcontinental railroad, busnes, cwmni rheilffordd |
|---|---|
| Daeth i ben | 1970 |
| Dechrau/Sefydlu | 2 Gorffennaf 1864 |
| Olynwyd gan | Rheilffordd Burlington Northern |
| Rhagflaenydd | Minnesota and International Railway, Midland Continental Railroad, Everett and Monte Cristo Railway |
| Olynydd | Rheilffordd Burlington Northern |
| Pencadlys | Saint Paul |
| Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
| Rhanbarth | Ashland |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/02hnhk |
| Quora | Northern-pacific-railroad |

Roedd Rheilffordd Northern Pacific yn rheilffordd ar draws gogledd orllewin yr Unol Daleithiau, o Minnesota i’r arfordir gorllewinol. Cadarnhawyd y rheilffordd gan llywodraeth yr Unol Daleithiau ym 1864, a rhoddwyd 47 miliwn o aceri i’r rheilffordd.[1] Defnyddiwyd y tir i godi pres o Ewrop er mwyn adeiladu’r rheilffordd.
Dechreuodd gwaith adeiladu ym 1870 ac agorwyd prif linell y rheilffordd ar 8 Medi 1883 pan osodwyd ‘golden spike’ gan Ulysses S. Grant ym Montana. Roedd gan y rheilffordd linellau yn Idaho, Gogledd Dakota, Minnesota, Montana, Oregon, Talaith Washington a Wisconsin.[2] Roedd hefyn cangen i Winnipeg, Manitoba, Canada. Cariodd y rheilffordd cynnyrch fferm, pren a mwynau yn ogystal â theithwyr.
Pencadlys y rheilffordd oedd Brainerd, Minnesota ac yn hwyrach St Paul, Minnesota[3]. Unodd y rheilffordd gyda rheilffyrdd eraill ym 1970 i fod y Rheilffordd Burlington Northern[4], ac unodd gyda Rheilffordd Atchison, Topeka a Santa Fe i fod y Rhielffordd Burlington Northern a Santa Fe ym 1996.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Gwefan cs.mcgill.ca". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-05-28. Cyrchwyd 2021-09-12.
- ↑ Map y rheilffordd ar wefan Library of Congress
- ↑ "Gwefan cs.mcgill.ca". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-05-28. Cyrchwyd 2021-09-12.
- ↑ Gwefan american-rails.com
