Rhanbarthau rygbi Cymru
Rhanbarthau Rygbi Cymru
Rhanbarthau rygbi Cymru yw timoedd proffesiynol rygbi'r undeb yng Nghymru.
Hanes
[golygu | golygu cod]Crewyd rygbi rhanbarthol Cymru yn 2003 gan sefydlu pump tîm. Fodd bynnag, diddymwyd y Rhyfelwyr Celtaidd flwyddyn yn ddiweddarach.[1]
Ar hyn o bryd, mae gan Cymru bedwar tîm rygbi rhanbarthol a sydd hefyd yn broffesiynol, sef:
Cynghrair
[golygu | golygu cod]Yn 2005, roedd rhanbarthau Cymru yn cystadlu yn y Gynghrair Geltaidd yn erbyn tîmau o'r Alban ac Iwerddon.[3]
Yn 2013, newidiwyd y gynghrair i'r Pro12 gan gynnwys timau o'r Eidal.[4]
Yn 2018 newidiodd y Pro12 i'r Pro14 wrth i ddau dîm o Dde Affrica, y Toyota Cheetahs a’r Southern Kings, ymuno â'r gynghrair.[5]
Ar gyfer cystadleuaeth 2021-22, newidiodd y Pro14 i fod y Bencampwriaeth Rygbi Unedig (PRU) pan ymunodd tîmau De Affrica â'r gystadleuaeth.[6]
2023
[golygu | golygu cod]Yn 2023, daeth rhanbarthau rygbi Cymru ac Undeb Rygbi Cymru i gytundeb ariannol newydd tan 2029.[7]
Mae'r rhanbarthau yn cystadlu yn y Pencampwriaeth Rygbi Unedig ac ar ddiwedd tymor 2022/23 daeth Caerdydd yn 10fed a'r Dreigiau, Scarlets a'r Gweilch yn gorffen yn y pedwar safle gwaelod.[8]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Y system bresennol o redeg rhanbarthau rygbi Cymru "ddim yn gweithio"". Golwg360. 2022-05-05. Cyrchwyd 2024-01-22.
- ↑ "Rhanbarthau". Undeb Rygbi Cymru | Cymru a Rhanbarthau. Cyrchwyd 2024-01-22.
- ↑ "BBC Cymru'r Byd - Chwaraeon - Y Gynghrair Geltaidd". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2024-01-23.
- ↑ "Ail enwi Cynghrair Magners". Golwg360. 2011-06-08. Cyrchwyd 2024-01-23.
- ↑ "Cynghrair y Pro14 yn cychwyn heno". Golwg360. 2017-09-01. Cyrchwyd 2024-01-23.
- ↑ "Newid y Pro14 i'r Bencampwriaeth Rygbi Unedig". BBC Cymru Fyw. 2021-06-15. Cyrchwyd 2024-01-23.
- ↑ "Rhanbarthau rygbi Cymru ac Undeb Rygbi Cymru yn dod i gytundeb ariannol newydd". newyddion.s4c.cymru. 2024-01-23. Cyrchwyd 2024-01-23.
- ↑ "Tymor newydd y Bencampwraeith Rygbi Unedig yn 'dalcen caled' i'r rhanbarthau". newyddion.s4c.cymru. 2024-01-23. Cyrchwyd 2024-01-23.