Rhadwedd

Oddi ar Wicipedia
Enghraifft o radwedd: Adobe Acrobat Reader

Mae rhadwedd (Saesneg: freeware) yn feddalwedd, sy'n cael ei dosbarthu heb unrhyw gost ariannol i'r defnyddiwr terfynol e.e. Skype ac Adobe Acrobat Reader.

Nid oes set o hawliau cyffredinol, trwydded na EULA (end-user license agreement) a gytunwyd arnynt sy'n diffinio rhadwedd, felly mae pob cyhoeddwr yn diffinio ei reolau ei hun ar gyfer y rhadwedd y mae'n ei gynnig. Mae rhai cyhoeddwyr yn caniatáu addasu ac ailddosbarthu'r feddalwedd gan drydydd parti, heb ganiatâd yr awdur, ond mae eraill yn gwahardd hyn.[1][2]

Yn wahanol i feddalwedd ffynhonnell-agored, rhydd, sydd hefyd yn gallu cael ei dosbarthu am ddim, fel arfer ni fydd y cod ffynhonnell ar gyfer rhadwedd ar gael.[1] Mae'n bosibl y bydd rhadwedd yn fanteisiol i'r cwmni neu'r person a'i creodd drwy annog gwerthiant fersiwn gwell, fel yn y modelau busnes a elwir ynfreemium a rhanwedd (shareware).

Yn y byd cyhoeddi traddodiadol, efallai mai'r hyn sy'n cyfateb orau i radwedd yw taflen a rennir yng nghanol y dref i ddenu cwsmer i siop datŵ: mae'r ffurflen bapur ei hun am ddim, ond nid yw'r hawl gennych i'w gopio na chyfrinach gwneuthuriad y papur na'r inc.

Hanes[golygu | golygu cod]

Ymddangosodd y cysyniad yma'n gyntaf yn y 1980au cynnar; cofnodir y gair Saesneg yn 1892 gan Andrew Fluegelman wrth iddo fynd ati i geisio marchnata rhaglen o'r enw PC-Talk.[3] gan Andrew Fluegelman.[4][5] Ar y cychwyn, cyn dyfodiad y we, rhennid y feddalwedd ar ddisg hyblyg 5 1/4 modf ac yna 3.5 modf a oedd yn cael eu rhannu am ddim gyda chylchgronnau cyfrifiadurol, i hybu gwerthiant. Yn wahanol i'r byd cyhoeddi lle rhoed gwaharddiad ar atgynhyrchu, roedd gwneuthurwr y rhaglen yn annog pobl i gopio'r gwaith a'i rannu ymhellach. Yn y 1990au, gyda dyfodiad y modem a'r BBS (bulletin board systems), gellid lawrlwytho rhaglenni a gemau syml fel Apogee Software (a adnabyddid hefyd fel 3D Realms), Epic MegaGames (enw cyfoes: Epic Games), Ambrosia Software ac id Software.

Mathau[golygu | golygu cod]

Defnyddir y termau canlynol yn yr iaith y cawsant eu bathu'n gyntaf:

  • Adware
  • Demoware
  • Crippleware
  • Trialware
  • Donationware
  • Nagware
  • Freemium

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Freeware Definition". The Linux Information Project. 2006-10-22. Cyrchwyd 2009-06-12.
  2. Magid, Lawrence J. (Awst 1982). "PC-Talk". PC Magazine. t. 143. Cyrchwyd 21 Hydref 2013.
  3. "Shareware: An Alternative to the High Cost of Software", Damon Camille, 1987
  4. Fisher.hu Archifwyd 2006-06-14 yn y Peiriant Wayback.
  5. The Price of Quality Software by Tom Smith