Red Rum

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Red Rum 1980

Roedd Red Rum (adfarch bae 3 Mai 1965 - 18 Hydref 1995) yn geffyl rasys ffos a pherth pedigri. Cyflawnodd trebl hanesyddol digymar trwy ennill Y Ras Fawr Genedlaethol ym 1973, 1974 a 1977. Daeth yn ail yn y ddwy flwyddyn gyfamserol (1975 & 1976).[1][2]

Mewn arolwg o ddigwyddiadau chwaraeon gore erioed a gynhaliwyd yn y DU yn 2002, daeth trydedd fuddugoliaeth Red Rum yn Y Ras Fawr Genedlaethol yn rif 24.[3][4]

Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd Red Rum ei fridio yng ngre Rossenarra, Kells , Swydd Kilkenny, Iwerddon, gan Martyn McEnery. Ei dad oedd Quorum (1954-1971), ei fam oedd Mared (1958-1976). Rhoddodd McEnery yr enw Red Rum i’r ceffyl trwy ddefnyddio’r tair llythyren olaf o enwau ei rieni. Dechreuodd Red Rum ei yrfa yn rhedeg fel gwibiwr gan ddod yn gyfartal yn ei ras gyntaf, ras fflat, pum ystâd ar gae ras Aintree. Rhedodd saith ras arall fel ceffyl ddwy flwydd oed gan ennill dros 7 cyfer yn Warwick. Enillodd dros 7 cyfer yn Doncaster yn ei ddwy ras gyntaf fel ceffyl tair oed[5]. Yn ei yrfa gynnar, cafodd ei farchogaeth ddwywaith gan Lester Piggott [6]. Cafodd y digrifwr Lee Mack , a oedd yn gweithio fel gwas stabl ar y pryd, ei wers marchogaeth gyntaf ar Red Rum[7] .

Ar ôl cael ei  basio o iard hyfforddi i iard hyfforddi, cafodd Red Rum ei brynu gan Ginger McCain ar gyfer ei gleient Noel le Mare. Roedd McCain yn hyfforddi’r ceffyl ar y tywod yn Southport. Roedd Red Rum yn ddioddef o gyflwr osteitis pedal, cyflwr sydd yn effeithio ar garnau anifeiliaid gan eu cloffi. Mae’n debyg bod carlamu trwy ddŵr y môr wedi bod yn foddion i leihau effeithiau’r cyflwr.

Y Ras Fawr Genedlaethol[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn Ras Fawr Genedlaethol 1973, llwyddodd Red Rum i guro'r ceffyl o Awstralia Crisp, a oedd yn cario 23 pwys yn fwy nag ef, mewn amser record newydd o 9 munud ac 1.9 eiliad. Roedd Crisp yn arwain y cae am y rhan fwyaf o’r ras. Roedd yn 15 hyd yn glir o Red Rum, ei erlynydd agosaf ar ôl neidio’r ffens olaf, fodd bynnag llwyddodd Red Rum a’i joci Brian Fletcher i gau’r bwlch ac ennill y ras o dri chwarter hyd[8].

Blwyddyn yn ddiweddarach, llwyddodd Red Rum i gadw ei deitl fel pencampwr Ras Fawr Genedlaethol 1974, yn cario 12 stôn[9] . Yn yr un flwyddyn cafodd buddugoliaeth yn Ras Fawr Genedlaethol yr Alban, yr unig geffyl i ennill y ddwy ras mewn un tymor.

Daeth Red Rum yn ail yn Ras Fawr Genedlaethol 1975. Ar ôl y ras cafodd Brian Fletcher ei ddisodli fel ei joci, wedi iddo gythruddo’r hyfforddwr, Ginger McCain, trwy ddweud wrth y wasg nad oedd y ceffyl yn ‘’teimlo’n iawn’’ wedi iddo gael ei drechu mewn ras i ffwrdd o Aintree.

Daeth Red Rum yn ail eto yn Ras Fawr Genedlaethol 1976 yn cael ei farchogaeth gan Tommy Stack. Blwyddyn yn ddiweddarach; ym 1977, yn 12 mlwydd oed, enillodd Red Rum ei drydedd Ras Fawr Genedlaethol gyda Tommy Stack yn ei farchogaeth[8][10]. Y tro cyntaf a hyd yn hyn (Ebrill 2017) yr unig geffyl i gyflawni’r gamp. Mae nifer o bobl yn ystyried mae’r drydedd fuddugoliaeth hwn yw’r foment fwyaf yn hanes rasio ceffylau.

Ymddeoliad[golygu | golygu cod y dudalen]

Wrth baratoi am ei chweched ymgais yn y Ras Fawr Genedlaethol ym 1978 cafodd Red Rum anaf a achosodd toriad maint llinyn gwallt yn un o’i goesau'r diwrnod cyn y ras a chafodd ei ymddeol o rasio wedi hynny.[8]

Wedi ymddeol fel ceffyl rasio, parhaodd Red Rum i gael ei ystyried yn drysor cenedlaethol gan bobl y Deyrnas Unedig ac fe fu yn gwneud ymddangosiadau seleb yn agor archfarchnadoedd, yn troi ymlaen Goleuadau Blackpool[11], ac ati; bu hefyd yn arwain parêd y ceffylau cyn y Ras Fawr Genedlaethol am sawl flwyddyn.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bedd Red Rum yn Aintree

Bu farw Red Rum ar 18 Hydref, 1995 yn 30 mlwydd oed. Bu sôn am ei farwolaeth ar dudalennau blaen papurau newydd trwy’r byd[12].

Claddwyd ei weddillion ger postyn ennill Cae Ras Aintree.

Un ar ddeg mlynedd ar ôl ei farwolaeth, canfu arolwg ei fod yn parhau i fod y ceffyl rasio mwyaf adnabyddus yn y DU. Pan ofynnwyd i bobl enwi ceffylau enwog mewn arolwg, daeth Red Rum i’r brig gan gael ei enwi 45% o Brydeinwyr, gyda Black Beauty (o nofel Anna Sewell) yn dod yn ail gyda 33%. 

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]