Radiograffi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Y defnydd o belydr-X i weld strwythurau caled, anodd eu gweld e.e. y tu fewn i bethau megis y corff neu rannau o'r corff ydy radiograffi. Radiograffydd yw'r person sy'n arbenigo yn y gwaith o greu llun o'r gwrthrych caled, megis asgwrn. Defnyddir 128 math o lwyd yn y lluniau, bellach, sy'n ansawdd gwell nag a fu yn y gorffennol. Defnyddir y rhain mewn anatomeg ddynol i astudio craciau neu doriadau yn yr esgyrn gan y m eddyg neu'r consultant.

Mewn Diwydiant[golygu]

Defnyddir radiograffi yn y byd diwydiannol yn ogystal â'r byd meddygol. Os yw'r gwrthrych a archwilir yn fyw (dynol neu anifail) yna perthyn i'r byd meddygol y mae; fel arall - i'r byd diwydiannol.

Hanes[golygu]

Yn 1895 y dechreuodd radiograffi, ar ôl i Wilhelm Conrad Röntgen ddarganfod pelydr-X, neu o leiaf ddisgrifio eu priodweddau mewn cryn fanylder. Cyn hyn, 'doedd neb yn gwybod fawr ddim am y pelydrau hyn - ac felly'r symbol x, wrth gwrs. Un o'r defnyddiau cynharaf oedd fel cymorth i ffitio esgidiau! Fe'i defnyddiwyd yn gyffredin mewn ysbytai hefyd cyn sylweddoli ei beryglon. Galwodd Madam Curie i radiograffi gael ei ddefnyddio i ddeiagnosio cleifio y fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd y staff a oedd yn trafod pelydr-X yn cynnwys nyrsus, meddygon yn ogystal a ffotograffwyr a pheirianwyr. O dipyn i beth tyfodd gwaith y radiograffydd i gynnwys fflworosgopi (fluoroscopy), a thopograffi cyfrifiadurol (1970s), mamograffi, uwchsain (ultrasound) (1970au), a delweddu cyseiniant magnetig (Magnetic Resonance Imaging).

Radiograff o'r penelin dde dynol.
Cymryd llun pelydr-X gyda pheiriant 'Crooke' ar ddiwedd yr 1800au.