Pêl-fasged
Enghraifft o'r canlynol | math o chwaraeon, chwaraeon olympaidd, difyrwaith |
---|---|
Math | chwaraeon peli, chwaraeon tîm, throwing game, gêm o sgil |
Dyddiad darganfod | Rhagfyr 1891 |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Dechrau/Sefydlu | Rhagfyr 1891 |
Hyd | 56 munud, 40 munud, 32 ±1 munud, 12 munud |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn y gêm pêl-fasged, mae dau dîm, gyda phump o chwaraewyr ar bob ochr. Maent yn ceisio ennill pwytiau drwy daflu pêl trwy'r fasged, sydd deg troedfedd o'r llawr yn ôl y rheolau. Hwn yw un o'r chwaraeon mwyaf poblogaidd yn y byd.
Enillir pwyntiau drwy basio'r bêl drwy'r fasged ar ei lawr; y tîm a'r nifer mwyaf o bwyntiau ar ddiwedd y gêm yw'r tîm buddugol. Gall y bêl deithio ymlaen ar y cẅrt drwy ei fownsio, driblo, neu ei basio nôl ag ymlaen rhwng aelodau o'r tîm. Ni chaniateir dod mewn cyswllt ag eraill (Saesneg: foul) ac mae rheolau llym ynglŷn â sut ddylir ymdrin â'r bêl.
Mae Pêl fasged wedi datblygu i gynnwys nifer o dechnegau cyffredin megis saethu, pasio a driblo, yn ogystal â safleoedd y chwaraewyr a strwythrau chwarae ymosodol ac amddiffynnol. Tra bod Pêl fasged cystadleuol wedi ei reoli yn ofalus, mae nifer fawr a amrywiaethau ar y gêm iw gael ar gyfer chwarae hamdden. Mewn rhai gwledydd mae Pêl fasged hefyd yn êm wylwyr boblogaidd.
Tra bod Pêl fasged cystadleuol yn êm mewnol yn bennaf, gan gael ei chwarae ar gwrt, mae nifer o amrywiaethau ar y gêm yn cael eu chwarae tu allan mewn dinasoedd mawr ac mewn cymunedau gwledig.