Protest Comin Greenham
Protest enwog iawn oedd Protest Comin Greenham a gychwynodd wrth i 40 o ferched orymdeithio i safle RAF Comin Greenham, yn Berkshire i annog diddymu arfau niwclear.
Y Daith[golygu | golygu cod y dudalen]
Safle yn Wiltshire yn ne Lloegr yw Greenham Common. Mae'n gartref i wersyllfa filwrol a ddefnyddiwyd yn yr 1980au ar gyfer cadw taflegrau Cruise. Ar y 27ain o Awst 1981 cychwynodd 40 o ferched ar eu taith o Gaerdydd i safle RAF Comin Greenham, yn Berkshire. Yr hyn na wyddent wrth gychwyn eu taith oedd y byddent yn gwersylla ar y safle am 19 mlynedd wrth geisio gwaredu ar yr arf niweidiol. Yn wreiddiol, protest gymysg ydoedd, fodd bynnag, ym mis Chwefror 1982, fe benderfynwyd mai protest i ferched yn unig ydoedd. Yn arwyddocaol iawn, drwy wahardd y dynion rhag cymryd rhan yn y brotest daeth presennoldeb y merched yn ymyrraeth clir i'r heddlu a'r milwyr ar y safle.
Am flynyddoedd cynhelid protestiadau mawr y tu allan i'r wersyllfa gan ferched a wrthwynebai bolisi niwclear llywodraethau Prydain a'r Unol Daleithiau, dan arweinyddiaeth Margaret Thatcher a Ronald Reagan. Cychwynwyd y protestiadau gan griw o ferched o ardal Caerdydd.