Prosiect Eden
![]() | |
Math |
tŷ gwydr, gardd fotaneg ![]() |
---|---|
| |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad |
St Blazey ![]() |
Sir | Cernyw |
Gwlad |
![]() ![]() |
Cyfesurynnau |
50.3619°N 4.7447°W ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol |
high-tech architecture ![]() |
Cyfadeilad amgylcheddol ar thema natur a datblygu cynaliadwy yw Prosiect Eden (Saesneg: The Eden Project; Cernyweg: Edenva). Fe'i lleolir y tu mewn cyn-weithfeydd caolin, ychydig i'r gorllewin o bentrefan Bodelva ger tref St Blazey.
Cafodd y dyn busnes Tim Smit syniad y prosiect, a gynlluniwyd gan y pensaer Nicholas Grimshaw. Parhaodd y gwaith adeiladu ddwy flynedd a hanner. Agorwyd y ganolfan, sy'n denu llawer o ymwelwyr i'r ardal,[1] ym mis Mai 2000.
Mae gan y safle ddau strwythur enfawr sy'n cynnwys cromenni geodesig cyfagos sy'n gartref i filoedd o rywogaethau planhigion. Mae pob strwythur yn efelychu bïom naturiol: mae'r mwyaf o'r ddwy fïom yn efelychu amgylchedd coedwig law, a'r ail, amgylchedd hinsawdd y Canoldir. Y tu allan mae gardd fotaneg fawr ac amrywiol. Mae'r biomau a'r gerddi gyda'i gilydd yn llenwi tua 13 hectr (32 erw).
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Yn ôl ystadegau swyddogol, roedd 1,006,928 o ymwelwyr i Brosiect Eden yn ystod 2018: "Latest Visitor Figures", Association of Leading Visitor Attractions; adalwyd 20 Mai 2019.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) Gwefan swyddogol