Procaryot

Oddi ar Wicipedia
Cydberthynas Parthau a Theyrnasai bywyd. Sylwer yr ystyrir yr Ewcaryota yn gyfuniad o fwy nag un Procaryot.

Organebau ungell microsgopig (neu gytrefi ohonynt) nad sy'n cynnwys cnewyllyn. Fe'u disgrifiwyd fel grŵp yn gyntaf gan Édouard Chatton (1883 - 1947) mewn papur yn 1925 Pansporella perplex: Reflections on the Biology and Phylogeny of the Protozoa[1]. Bathodd y term Procaryot (ac Ewcaryot) mewn papur yn 1938. Maent yn cynnwys dau o'r tri Pharth sy'n cynnwys holl organebau bywyd. Y trydydd Parth yw'r Ewcaryota (celloedd sydd ag iddynt gnewyllyn). Daw'r termau o'r Roeg καρυόν (craidd cneuen). Ers y 1970au, yn bennaf trwy waith Carl Woese, sylweddolwyd fod modd rhanni'r Procaryota yn ddau Barth - y Bacteria a'r Archaea. Yn nhermau niferoedd a swmp, procaryotau yw'r rhan fwyaf o fywyd y ddaear. Maent yn hollbwysig i iechyd ac afiechyd dynoliaeth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Jan Sapp (2005) The Prokaryote-Eukaryote Dichotomy: Meanings and Mythology Microbiol Mol Biol Rev. 69, 292–305. doi: 10.1128/MMBR.69.2.292-305.2005 https://www.ncbi.nlm.nih.gov/pmc/articles/PMC1197417/