Priodas gyfunryw yng Ngwlad yr Iâ
Gwedd
Gwlad yr Iâ oedd y nawfed wlad i gyfreithloni priodas gyfunryw, a hynny yn 2010 a daeth y ddeddfwriaeth i rym ar 27 Mehefin 2010.[1] Pleidleisiodd 49 o aelodau'r Althingi o blaid y mesur a ni phledleisiodd yr un aelod yn ei erbyn.[2] Roedd mwyafrif o Islandwyr yn cefnogi'r mesur cyn iddo gael ei basio. Roedd Johanna Sigurdardottir, Prif Weinidog Gwlad yr Iâ, a'i phartner Jonina Leosdottir yn un o'r cyplau cyfunryw cyntaf i briodi dan y ddeddf newydd.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) New gay marriage law in Iceland comes into force. Ice News (28 Mehefin 2010). Adalwyd ar 14 Mai 2013.
- ↑ (Saesneg) Iceland passes gay marriage law in unanimous vote. Reuters (11 Mehefin 2010). Adalwyd ar 14 Mai 2013.
- ↑ (Saesneg) Gay Marriage Around the World (Iceland). Pew Forum (8 Chwefror 2013). Adalwyd ar 14 Mai 2013.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/48/Gay_Pride_Flag.svg/40px-Gay_Pride_Flag.svg.png)