Prifysgol Philipp Marburg
Gwedd
![]() Sêl y brifysgol | |
Math | prifysgol gyhoeddus, comprehensive university ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Philip I, Landgraf Hessen ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Marburg ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 50.8108°N 8.7736°E ![]() |
![]() | |
Prifysgol ymchwil gyhoeddus yn yr Almaen yw Prifysgol Philipp Marburg (Almaeneg: Philipps-Universität Marburg) a leolir ym Marburg yn nhalaith Hessen. Hon ydy'r brifysgol 10fed hynaf yn yr Almaen, a'r un cyntaf a gychwynnodd fel sefydliad Protestannaidd.
Sefydlwyd y brifysgol ym 1527 gan Philipp I, Tiriarll Hessen, er hyrwyddo Lutheriaeth, a ffynnai Marburg yn ystod y Diwygiad Protestannaidd. Trodd yn sefydliad Calfinaidd ym 1605, pan orchmynnodd un o olynwyr Philipp newid defodlyfr swyddogol y brifysgol, a gostyngodd niferoedd y myfyrwyr.[1]
Ymhlith cyn-fyfyrwyr enwog y brifysgol mae'r athronydd Jürgen Habermas, y ffisegydd John Tyndall, a'r cemegwyr Hermann Kolbe, Friedrich Wöhler ac Otto Hahn.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Philipps University of Marburg. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Hydref 2023.