Praise the Lord and Pass the Ammunition

Oddi ar Wicipedia

Cân wladgarol Americanaidd yw Praise the Lord and Pass the Ammunition, a gyfansoddwyd gan Frank Loesser ac a gyhoeddwyd fel taflen gerddoriaeth yn 1942 gan Famous Music Corp. Roedd y gân yn ymateb i'r ymosodiad gan luoedd Siapan ar Pearl Harbor, Hawaii a dynnodd yr Unol Daleithiau i mewn i'r Ail Ryfel Byd.

Disgrifia'r gân caplan milwrol Americanaidd ("sky pilot") sydd yng nghwmni grŵp o filwyr ar long ryfel sydd dan ymosodiad gan awyrennau Japaneaidd. Gofynnir iddo weddïo dros y milwyr oedd yn saethu at yr awyrennau. Mae'r caplan yn rhoi ei Feibl i lawr, yn dringo i un o dyrrau gwn y llong ac yn dechrau saethu yn ôl, gan ddweud "Praise the Lord and pass the ammunition".

Yn 1942, cyrhaeddodd recordiad gan The Merry Macs rif 8 ar y siart Billboard yn UDA. Cyrhaeddodd fersiwn 1943 gan Kay Kyser and His Orchestra rif 1.

Mae'r gân wedi cael ei defnyddio sawl gwaith dros y blynyddoedd er hynny, naill ai fel fersiynau o'r gân wreiddiol neu fel geiriau mewn caneuon eraill. Gan amlaf mae'r cyd-destun gwladgarol yn cael ei anwybyddu ac mae'r geiriau yn cael eu dyfynnu'n ddychanol i feirniadu rhyfel a ymleddir am resymau crefyddol neu grefydd sy'n datgan cefnogaeth i ryfel.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]