Porpin pinc
Claytonia sibirica | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau craidd |
Urdd: | Caryophyllales |
Teulu: | Montiaceae |
Genws: | Claytonia |
Rhywogaeth: | C. sibirica |
Enw deuenwol | |
Claytonia sibirica Carl Linnaeus |
Planhigyn blodeuol blynyddol, bychan yw Porpin pinc sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Montiaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Claytonia sibirica a'r enw Saesneg yw Pink purslane.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Gwlyddyn Rhudd.
Planhigyn blynyddol neu luosflwydd sy'n tyfu mewn mannau tamp lled foel. Yn aml fe'i ceir mewn coedlannau agored neu wrychoedd, neu wrth nentydd cysgodol lle ceir ei olchi i lawr gyda'r dŵr i fannau newydd[2]
Hanes ym Mhrydain
[golygu | golygu cod]Yn ol yr Atlas Newydd Fflora Prydain roedd yn cael ei dyfu ym Mhrydain erbyn 1768 ac fe sylwyd arno gyntaf yn y gwyllt yn 1838[2]
Ecoleg
[golygu | golygu cod]Gall wladychu coedlannau, a goresgyn llusdyfiant arall gan ei ddeiliach toreithiog îr, sydd yna yn disgyn ar blanhigion eraill wrth ei ymyl[2].
Dosbarthiad
[golygu | golygu cod]Wedi ymledu dros Ogledd Orllewin Ewrop yn eang. Cynyddu ym Mhrydain. Clytiog yng Nghymru yn yr iseldir. Yn cyrraedd 425m yng Nghymbria[2].
Tras
[golygu | golygu cod]Mae'n gynhenid i ddwyrain Asia a gorllewin Gogledd America[2].
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Y Bywiadur Gwefan Llên Natur