Popeye

Oddi ar Wicipedia
Popeye the Sailor Meets Sindbad the Sailor

Mae Popeye yn gymeriad cartŵn sydd wedi bodoli ers y 1930au. Hen forwr ydy o, â'i getyn yn ei geg o hyd.

Mae Popeye mewn cariad ag Olive Oyl a'i elyn mawr yw Bluto sydd wastad yn ceisio dwyn Olive oddi wrtho fo.

Hoff fwyd Popeye yw sbinaitsh ffres o'r tun. Ar ôl tun o sbinaitsh mae o'n gryf iawn ond hebddo mae'n dda i ddim.