Poolewe
Gwedd
| Math | anheddiad dynol |
|---|---|
| Poblogaeth | 230 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Cyngor yr Ucheldir |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 57.765°N 5.604°W |
| Cod OS | NG858807 |
![]() | |
Pentref yng Nghyngor yr Ucheldir, yr Alban, yw Poolewe[1] (Gaeleg yr Alban: Poll Iù).[2] Fe'i lleolir yn Wester Ross, tua 5 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Gairloch. Saif y pentref ar lannau Loch Ewe lle mae Afon Ewe yn llifo i mewn iddo. Gerllaw, mae Gardd Inverewe sy'n enwog am y planhigion is-drofannol sy'n tyfu yn yr hinsawdd fwyn.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 11 Ebrill 2022
- ↑ Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba Archifwyd 2022-04-11 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 11 Ebrill 2022
