Pont nofiol

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Pont gychod yng Ngogledd Iwerddon yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Pont sydd yn defnyddio badau isel neu arnofion eraill i nofio ar y dŵr yw pont nofiol, pont ysgraffau, neu bont gychod. Dibynna cryfder y bont i ddal pwysau ar hynofedd yr hyn sy'n ei chynnal. Hwn yw'r math amlaf o bont filwrol a gynhyrchir dros dro er mwyn cludo milwyr ac offer ar draws afon neu lyn, ond defnyddir pontydd nofiol am resymau eraill hefyd.[1]

Badbont ar draws Afon Hafren yn yr Amwythig. Ffotograff gan Geoff Charles (1950).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) pontoon bridge. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Mai 2017.
Bridge icon.svg Eginyn erthygl sydd uchod am bont. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.