Pont Rio-Antirio
Gwedd
Math | pont ffordd, pont gablau |
---|---|
Agoriad swyddogol | 7 Awst 2004 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | A5 motorway, Llwybr Ewropeaidd E55 |
Lleoliad | Rio, Antirrio |
Sir | West Greece Region |
Gwlad | Gwlad Groeg |
Cyfesurynnau | 38.3214°N 21.7728°E |
Hyd | 2,880 metr |
Deunydd | dur |
Pont yng Ngwlad Groeg yw Pont Rio-Antirio (Groeg: Γέφυρα Ρίου-Αντιρρίου), yn swyddogol "Pont Charilaos Trikoupis" ar ôl y gwleidydd a gafodd y syniad. Mae'n bont gablau sy'n croesi Gwlff Corinth o dref Rio gerllaw Patras ar y Peloponnesos i dref Antirio ar y tir mawr.
Gwleidydd yn y 19g oedd Charilaos Trikoupis, a awgrymodd adeiladu pont rhwng Rio ac Antirio i gael cysylltiad heblaw Isthmws Corinth i'r Peloponnesos; ond nid oedd arian ar gael i'w hadeiladu ar y pryd. Dechreuwyd adeiladu'r bont yng nghanol y 1990au, ac fe'i cwblhawyd yn 2004. Mae'r bont yn 2,880 medr o hyd a 28 medr o lêd.