Isthmws Corinth

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Isthmws Corinth
Corinth Isthmus.jpg
Math isthmus Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwlad Groeg Edit this on Wikidata
Gwlad Gwlad Groeg Edit this on Wikidata
Uwch y môr 94 metr Edit this on Wikidata
Gerllaw Gwlff Corinth, Gwlff Saronica Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 37.9414°N 22.9878°E, 37.93293°N 22.98374°E Edit this on Wikidata

Isthmws Corinth yw'r gwddw o dir sy'n gorwedd rhwng y Peloponnese ac Attica yng Ngwlad Groeg. Mae Camlas Corinth yn torri trwyddo i gysylltu Gwlff Corinth a Gwlff Saronica.

Roedd amddiffyn yr isthmws yn bwysig yng ngwleidyddiaeth a strategaeth filwrol Groeg yr Henfyd. Codwyd y 'Mur Isthmiaidd' gan ddinas Corinth dros rhan gulaf yr isthmws yn y cyfnod Clasurol, efallai tua 270 CC; rhedai o Isthmia yn y dwyrain i lan Gwlff Corinth yn y gogledd-orllewin. Roedd yn dilyn llinell o greigiau isel. Gwelir olion o'r mur yma ac acw hyd heddiw.