Pont Harbwr Auckland
| Math | pont cantilifrog, pont ffordd, craffrwym bocs |
|---|---|
| Agoriad swyddogol | 30 Mai 1959 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Auckland |
| Sir | Auckland |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 36.8294°S 174.7464°E |
| Hyd | 1,020 metr |
![]() | |
| Deunydd | dur |
Pont draffordd craffrwymau wyth-lôn dros Harbwr Waitemate yw Pont Harbwr Auckland, sy'n cysylltu St Marys Bay yn Ninas Auckland gyda Northcote ar y Lan Ogleddol. Mae'n ran o State Highway 1 a Thraffordd Ogleddol Auckland ac yn cael ei gweithredu gan y New Zealand Transport Agency (NZTA).[1] Dyma'r bont ffordd ail-hiraf yn Seland Newydd a'r hiraf yn Ynys y Gogledd.[2]
Ei hyd yw 1,020 metr (3,348 troedfedd), gyda phrif rhychwant o 243.8 metr, gan godi 43.27 metr uwchben lefel ucha'r dŵr[3] ac felly'n caniatáu mynediad i longau at lanfa dŵr dwfn y Chelsea Sugar Refinery.
Agorwyd y bont yn swyddogol ar 30 Mai 1959 gan Yr Arglwydd Cobham Llywodraethwr-Gyffredinol Seland Newydd.[4]
Adeiladwyd y bont gyda phedair lôn yn unig ar gyfer traffig. Daeth hyn yn annigonol yn dilyn tŵf cyflym maestrefi'r Lan Ogleddol. Yn 1969, ychwanegwyd rhannau rhwymdrawst dwy-lôn ar y naill ochr, gan ddyblu nifer y lonau i wyth. Cynhyrchwyd y rhannau hyn gan Ishikawajima-Harima Heavy Industries o Siapan, a arweiniodd at y llysenw 'Nippon clip-ons'. Roedd dewis y cwmni'n gam mentrus ar y pryd, llai nag 20 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd, gan bod teimladau wrth-Siapaneaidd yn dal i fodoli yn y wlad. [5][6]
Chwifio'r Ddraig Goch
[golygu | golygu cod]Yn 2006, chwifwyd y Ddraig Goch oddi ar y bont i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.[7] Newidiwyd y polisi o chwifio banneri yn 2007 fel mai dim ond banner Seland Newydd fyddai'n cael ei chwifio.[8]


Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Auckland Harbour Bridge". NZTA. Cyrchwyd 26 Rhagfyr 2012.
- ↑ What is the longest bridge in New Zealand? Archifwyd 2008-06-19 yn y Peiriant Wayback (from the Transit New Zealand FAQ webpage. Adalwyd 9 Mehefin 2008.)
- ↑ 1951-1961 The Auckland Harbour Bridge Authority Archifwyd 2007-02-07 yn y Peiriant Wayback (Auckland Harbour Board, 1960s)
- ↑ Record of 20 Years Activities 1951-1971 - Auckland Harbour Bridge Authority
- ↑ Bridging the Gap, Slide 15 (from the North Shore City Libraries website. Adalwyd 8 Mehefin 2008.)
- ↑ Bridging the Gap, Slide 14 Archifwyd 2008-10-14 yn y Peiriant Wayback (from the North Shore City Libraries website. Adalwyd 8 Mehefin 2008.)
- ↑ Flag of Wales to fly on Auckland Harbour Bridge Archifwyd 16 Hydref 2008 yn y Peiriant Wayback Datganiad i'r wasg ar wefan New Zealand Transport Agency 26.2.2006. Adalwyd 26.12.2012
- ↑ Transit changes Harbour Bridge flag policy Archifwyd 2013-05-05 yn y Peiriant Wayback Datganiad i'r wasg ar wefan New Zealand Transport Agency 29.5.2007. Adalwyd 26 Rhagfyr 2012
