Polisi Awstralia Wen

Oddi ar Wicipedia
Polisi Awstralia Wen
Bathodyn Cymdeithas Brodorion Awstralia o 1910 gyda'r arwyddeiriau "Awstralia i'r Awstraliaid" ac "Awstralia Wen".
Enghraifft o'r canlynolpolisi cyhoeddus Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1901 Edit this on Wikidata
GwladwriaethAwstralia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Enw ar bolisïau a luniwyd gan lywodraethau Awstralia i gyfyngu mewnfudo i bobl wynion, yn enwedig o Ynysoedd Prydain ac Iwerddon, ac i rwystro Asiaid ac Ynyswyr y Cefnfor Tawel, yw polisi Awstralia Wen a fu ar waith o 1901 hyd at ddechrau'r 1970au. Nod y polisi oedd i gadw Awstralia'n wlad gyda mwyafrif helaeth o'i phoblogaeth yn groenwyn, ac o dras Eingl-Geltaidd yn bennaf, ac i atal cyflogau rhag gostwng o ganlyniad i fewnlif o weithwyr o wledydd tlotach.

Ar 12 Medi 1901 dwedodd y Twrnai Cyffredinnol yn blaen:[1]

"That end, put in plain and unequivocal terms … means the prohibition of all alien coloured immigration, and more, it means at the earliest time, by reasonable and just means, the deportation or reduction of the number of aliens now in our midst. The two things go hand in hand, and are the necessary complement of a single policy – the policy of securing a ‘white Australia’."

Yn ogystal, bu bygwth milwrol Ymerodraeth Japan yn ystod hanner cyntaf yr 20g yn cymell Awstralia i ymbellhau o wledydd eraill y rhanbarth.[2] Yn sgil ffedereiddio Cymanwlad Awstralia ym 1901, cyflwynwyd prawf arddweud ar gyfer mewnfudwyr, a oedd yn fodd i'r awdurdodau gwrthod ymgeisydd trwy ddewis iaith nad oedd yn ei medru. Ym 1949, dechreuodd y llywodraeth ganiatáu mewnfudwyr o wledydd cyfandirol Ewrop.

Cyflwynwyd trwyddedau mynediad ym 1958 i yn lle'r profion arddweud, a chafodd y rhan fwyaf o'r polisi ei dadwneud yn y ddeng mlynedd i ddod.

Ym 1975, pasiwyd deddfau i wahardd hil rhag cael ei hystyried wrth benderfynu ar geisiadau mewnfudo.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "White Australia policy 1901: White Australia policy enshrined in law". Amgueddfa Genedlaethol Awstralia. Cyrchwyd 22 Chwefror 2024.
  2. (Saesneg) White Australia policy. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Chwefror 2024.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]