Neidio i'r cynnwys

Pokémon Quest (gêm fideo)

Oddi ar Wicipedia
Pokémon Quest
Enghraifft o:gêm fideo Edit this on Wikidata
CyhoeddwrNintendo, The Pokémon Company Edit this on Wikidata
GwladJapan Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi29 Mai 2018, 20 Mehefin 2018, 26 Mehefin 2018 Edit this on Wikidata
Genregêm antur ac ymladd Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintdan hawlfraint Edit this on Wikidata
DosbarthyddNintendo eShop, Google Play, App Store Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://pokemonquest.pokemon.com Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Gêm fideo cyffro-antur yn y gyfres Pokémon yw Pokémon Quest. Cafodd ei datblygu gan Game Freak a'i chyhoeddi gan Nintendo a The Pokémon Company. Fe'i rhyddhawyd ar gyfer Nintendo Switch ym mis Mai 2018, gyda fersiynau ar gyfer dyfeisiau Android ac iOS wedi'u rhyddhau ym mis Mehefin 2018. O fewn diwrnodau o'i lansio ar y Switch, roedd wedi gweld dros filiwn o lawrlwythiadau ledled y byd, ac wedi cyrraedd mwy na 7.5 miliwn o lawrlwythiadau ar ôl wythnos.

Mae dyluniad Pokémon Quest ar ffurf blociau, tebyg i Minecraft. Mae'r gêm wedi'i lleoli ar ynys o'r enw 'Tumblecube Island', sy'n cynnwys Pokémon siâp ciwb o'r enw "Pokéxel".[1] Y Pokémon sy'n ymddangos yn y gêm yw'r rhai gwreiddiol o'r rhanbarth Kanto yn Pokémon Red and Blue.[2] Yn y gêm, mae chwaraewyr yn rheoli'r gwersyll a thîm Pokémon. Prif dasg y chwaraewr yw cwblhau'r holl lefelau ar yr ynys, gan guro'r Pokémon gwyllt. Gellir rhannu'r broses gêm yn bedair rhan: rheoli gwersylloedd, mynd ar deithiau, hyfforddi a gwneud y gorau o Pokémon, a denu Pokémon newydd. Mae'r chwaraewr yn paratoi prydau bwyd yn y gwersyll er mwyn denu'r Pokémon newydd, ac mae gwahanol brydau yn denu gwahanol rai.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. DeFreitas, Casey (29 Mai 2018). "Everything We Know About Pokemon Quest for Nintendo Switch". IGN (yn Saesneg). Cyrchwyd 30 Mai 2018.
  2. Farokhmanesh, Megan (29 Mai 2018). "The Nintendo Switch is getting a free Pokemon RPG today". The Verge. Cyrchwyd 30 Mai 2018.