Minecraft
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | gêm fideo, esports discipline ![]() |
Y gwrthwyneb | Minecraft clone ![]() |
Crëwr | Markus Persson ![]() |
Cyhoeddwr | Xbox Game Studios ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 18 Tachwedd 2011 ![]() |
Genre | gêm goroesi, gêm antur ac ymladd, gêm pwll tywod ![]() |
Cyfres | Minecraft ![]() |
Yn cynnwys | Minecraft: Java Edition, Minecraft: Bedrock Edition, Minecraft: Legacy Console Edition, Minecraft: New Nintendo 3DS Edition, Minecraft: Education Edition, Minecraft: Pi Edition, Minecraft Earth, Minecraft modding ![]() |
Sylfaenydd | Markus Persson ![]() |
Cyfansoddwr | Daniel Rosenfeld, Lena Raine, Gareth Coker, Kumi Tanioka ![]() |
Dosbarthydd | Nintendo eShop, PlayStation Store, Microsoft Store, Google Play, App Store ![]() |
Gwefan | https://www.minecraft.net ![]() |
![]() |
Mae Minecraft yn gêm cyfrifiadur a grëwyd yn wreiddiol gan y rhaglennwr Swedeg Markus "Notch" Persson ac wedyn datblygwyd a chyhoeddwyd gan Mojang.
Mae Minecraft yn gêm lle mae'r chwaraewyr yn gallu creu eu profiad eu hun. Mae'r chwaraewr yn cloddio ac adeiladu blociau lliw i greu byd o wahanol diroedd ac wedyn yn ceisio i'w fentro trwodd. Mae pob buwch yn minecraft yn fenywaidd gan eu bod i gyd yn gallu cynhyrchu llefrith. Mae'r haul yn codi ac yn nosi ac mae'r tywydd yn newid wrthi i'r chwaraewr fynd at i gasglu adnoddau a gwneud offer. Mae anifeiliaid i'w ffermio neu ddefnyddio am fwyd, gan ddibynnu ar ba modd sydd wedi'i ddewis bydd angen ymladd i gadw'n fyw yn erbyn peryglon a'r cymeriadau drwg.[2]
Fe lansiwyd y fersiwn prawf ar gyfer datblygwyr ym Mai 2009 a lansiwyd y fersiwn i'r cyhoedd yn 2011 ar gyfer PC, Mac ac Android. Rhyddhawyd fersiwn ar gyfer Xbox yn 2012 ac ar gyfer PlayStation 3 yn 2013. Mae'r holl fersiynau o Minecraft yn derbyn diweddariadau cyson.
Yn 2012 rhyddhawyd set Lego a seiliwyd ar Minecraft o'r enw Lego Minecraft.
Poblogrwydd[golygu | golygu cod y dudalen]
Erbyn 2015 roedd Minecraft wedi gwerthu 70 miliwn o gopïau gan ei wneud yn un o'r gemau mwyaf poblogaidd erioed. Yn 2014 fe brynwyd Mojang a Minecraft gan Microsoft am $2.5 biliwn.[3]
Chwarae[golygu | golygu cod y dudalen]
Ar ddechrau'r gêm, mae'r chwaraewr yn cael ei osod ar wyneb byd di-ben-draw. Mae'r byd wedi'i rannu i biomes sy'n cynnwys anialwch, jyngl, fforestydd ac eira. Mae system amser y gêm yn dilyn dydd a nos, gydag un cylch cyfan yn parhau 20 munud. Yn ystod y gêm mae'r chwaraewyr yn dod ar draws mobs o gymeriadau yn cynnwys anifeiliaid, pentrefwyr a chreaduriaid gelyniaethus.
Mae'r anifeiliaid fel moch, gwartheg ac ieir yn gallu cael eu hela am fwyd ac yn ymddangos yn y dydd. Yn y nos mae mobs drwg fel zombîs, ysgerbydau a phryfed cop yn ymddangos.
Mae sawl modd ar gael, yn cynnwys survival mode ble mae rhaid i'r chwaraewr gasglu adnoddau i adeiladu'r byd a chadw'n fyw, creative mode ble mae chwaraewr yn cael cyflenwad di-ddiwedd o adnoddau i adeiladu, adventure mode ble mae chwaraewyr yn defnyddio mapiau a grëwyd gan bobl eraill, spectator mode ble mae chwaraewyr yn hedfan drwy blociau ond ddim yn cael gosod blociau a'r hardcore mode ble mae chwaraewyr o dan berygl o farw am byth. Mae'r fersiwn PC o'r gêm yn adnabyddus am y nifer fawr o ychwanegion sy'n rhoi mwy o gymeriadau a heriau.[2][4]
Minecraft yn Gymraeg[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae Minecraft: Java Edition wedi'i gyfieithu i'r Gymraeg gan gefnogwyr trwy brosiect cyfieithu swyddogol Mojang ar Crowdin.[5]
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Minecraft's Nether Update Features Music From Celeste Composer". 9 Ebrill 2020. Cyrchwyd 2 Awst 2020.
- ↑ 2.0 2.1 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-17. Cyrchwyd 2016-01-08.
- ↑ Peckham, Matt (September 15, 2014). "Minecraft Is Now Part of Microsoft, and It Only Cost $2.5 Billion". Time. Cyrchwyd September 15, 2014.
- ↑ http://www.mirror.co.uk/news/technology-science/technology/what-minecraft-millions-children-addicted-3970439
- ↑ https://crowdin.com/project/minecraft/cy