Poison Pen (ffilm 1939)

Oddi ar Wicipedia
Poison Pen
Reginald Tate, Flora Robson ac Ann Todd yn Poison Pen
Cyfarwyddwyd ganPaul L. Stein
Cynhyrchwyd ganWalter C. Mycroft
Awdur (on)Esther McCracken
N.C.Hunter
Doreen Montgomery
William Freshman
Seiliedig ar ddrama gan Richard Llewellyn
Yn serennuFlora Robson
Reginald Tate
Ann Todd
Robert Newton
SinematograffiPhilip Tannura
Golygwyd ganFlora Newton
Dosbarthwyd ganAssociated British-Pathé
Rhyddhawyd gan4 Gorffennaf 1939
Hyd y ffilm (amser)79 munud
IaithSaesneg

Mae Poison Pen yn ffilm a chynhyrchiwyd ym 1939 ac a gyfarwyddwyd gan Paul L. Stein, gyda Flora Robson, Reginald Tate ac Ann Todd yn serennu. Mae'n seiliedig ar ddrama 1937 o'r un enw gan Richard Llewellyn.

Drama wreiddiol[golygu | golygu cod]

Cafodd y ddrama ei ysgrifennu ychydig cyn nofelau enwog Llewellyn How Green Was My Valley a None But the Lonely Heart. Mae'r ddrama yn ymwneud ag achos o lythyrau gwenwynllyd anhysbys sy'n ansefydlogi cymuned wledig fachan. Cafodd ei berfformio gyntaf yn Richmond, ger Llundain, ar 9 Awst 1937. Agorodd cynhyrchiad y West End, gan ddefnyddio testun diwygiedig, yn Theatr Shaftesbury ar 9 Ebrill 1938, cyn symud i'r Playhouse ym mis Gorffennaf a'r Garrick ym mis Awst. Bu cyfanswm o 176 perfformiad yn y rhediad cyntaf cyn cau ar 10 Medi.[1] Defnyddiodd yr hanesydd theatr J C Trewin y pennawd ''How Grim Was My Village'', wrth adolygu'r sioe.[2]

Ffilm[golygu | golygu cod]

Gwnaethpwyd y fersiwn ffilm gan yr Associated British Picture Corporation yn Stiwdios Elstree ac fe’i hagorwyd yn Llundain ar 4 Gorffennaf 1939. Etifeddodd Flora Robson a Reginald Tate y rolau blaenllaw a chwaraewyd ar y llwyfan gan Margaret Yarde a Walter Fitzgerald. (Symleiddiwyd enw cymeriad Robson - Phryne Rainrider yn y ddrama - i Mary Rider ar gyfer y ffilm). Yr unig actor a oedd yn gyffredin i'r ddrama wreiddiol a'r ffilm oedd Roddy Hughes. Y nofelydd Graham Greene, oedd adolygydd ffilmiau The Spectator ar y pryd, ei farn ef am y ffilm oedd ei fod yn "enghraifft druenus o ffilm Saesneg yn ceisio creu awyrgylch Seisnig".[3] Yn ddiweddarach cafodd mwy o werthfawrogiad, fe'i disgrifiwyd gan yr hanesydd ffilm David Quinlan fel "drama dywyll araf, sordid ond trawiadol" [4] a chan Raymond Durgnat fel "stori lom sy'n rhagflaenu "Le Corbeau" gan Clouzot." [5]

Plot[golygu | golygu cod]

Mae tawelwch pentref yn Lloegr yn cael ei chwalu pan fo cyfres o lythyrau anhysbys yn dechrau cael eu danfon i gartrefi'r pentref, sy'n cynnwys honiadau ysgubol am y derbynyddion a'u teuluoedd. Mae trigolion parchus a'u hanwyliaid yn cael eu cyhuddo o bob math o gamweddau moesol, rhywiol a throseddol. Mae'r Parchedig Rider (Tate) a'i chwaer Mary (Robson) yn ceisio tawelu anniddigrwydd cynyddol y pentrefwyr trwy ddweud y dylid anwybyddu'r llythyrau fel nonsens maleisus. Nid yw eu hymdrechion yn cwrdd â mawr o lwyddiant. Mae merch Rider, Ann (Todd) hefyd yn dod yn darged gyda chyhuddiadau anweddus yn cael eu gwneud am ei dyweddi David (Geoffrey Toone).

Wrth i'r llythyrau barhau i gyrraedd gyda chynnwys cynyddol waeth, mae gwead cymdeithasol y pentref yn dechrau dadfeilio. Mae'r llythyrau i gyd yn dwyn marc post lleol, ac mae pobl yn dechrau edrych yn amheus ar eu ffrindiau a'u cymdogion, gan feddwl tybed pwy allai fod y tu ôl i'r ymgyrch. Er gwaethaf annog taer y Parchedig Rider i ddiystyru cynnwys y llythyrau mae rhai yn sylwi ei bod yn ymddangos bod gan ysgrifennwr y llythyrau wybodaeth fanwl iawn am eu hamgylchiadau personol. Maent yn dechrau cwestiynu os gallai fod gronyn o wirionedd yn yr hyn sy'n cael ei ysgrifennu. Mae perthnasau personol pobl y pentref yn dechrau mynd dan straen wrth i'r ymgyrch llythyru parhau.

Cyn bo hir, mae amheuaeth a pharanoia yn goddiweddyd y pentref cyfan, ac mae bysedd yn dechrau cael eu pwyntio at Connie Fateley (Catherine Lacey), gwniadwraig ifanc swil sy'n byw ar ei phen ei hun ac nad yw'n tueddu i gymdeithasu. Gan gael eu hargyhoeddi mai hi yw'r union fath o bersonoliaeth a fyddai'n debygol o fod yn gyfrifol am ymgyrch llythyru gwenwynllyd maleisus, mae'r pentrefwyr yn troi yn ei herbyn. Maent yn ei chyhuddo o fod yn euog o'r trosedd ac yn ei chau hi allan o fywyd y pentref. Mae trasiedi yn dilyn pan mae Connie yn crogi ei hun o raff cloch eglwys y pentref mewn cyflwr o anobaith.

Mae'r Parch. Rider yn pregethu pregeth lle mae'n mynegi ei ffieidd-dod gyda'i gynulleidfa am iddynt yrru Connie i gyflawni hunanladdiad heb y mymryn lleiaf o dystiolaeth yn ei herbyn. Mae'r mwyafrif, fodd bynnag, yn credu'n breifat fod marwolaeth Connie yn gyfaddefiad o euogrwydd ac yn teimlo rhyddhad bod eu dioddefaint ar ben. Ond yn fuan y mae llythyrau tebyg yn cyrraedd eto. Mae'r heddlu'n dechrau ymchwilio i'r digwyddiadau, gan gadw llygad ar flychau post lleol mewn ymgais i ddal y tramgwyddwr. Mae David yn dechrau derbyn llythyrau sy'n rhoi manylion am anffyddlondeb honedig Ann, ac mae’r pentrefwr ansefydlog Sam Hurrin (Robert Newton) yn cael ei dargedu gyda honiad bod ei wraig Sucal (Belle Chrystall) yn cael perthynas rhywiol gyda’r siopwr lleol Len Griffin (Edward Chapman). Ar ôl yfed ei hun i gynddaredd, mae Hurrin yn mynd allan i wynebu Griffin a'i saethu yn angheuol.

Mae'r heddlu bellach yn cychwyn gwyliadwriaeth rownd y cloc o'r holl flychau post yn y pentref. Mae'r llythyrau a gasglwyd yn cael eu dadansoddi ac mae'n ofynnol i bawb sy'n postio llythyr yn y pentref darparu'r cyfeiriad ar yr amlen i'r heddlu. Mae arbenigwr llawysgrifen (Roddy Hughes) yn cael ei benodi i archwilio'r llythyrau. Mae'r ymchwiliad yn arwain at ddarganfyddiad annisgwyl, sef mae Mary, chwaer y ficer, ac aelod uchel ei pharch o'r gymuned, sydd wedi llwyddo i guddio cyflwr meddwl aflonydd difrifol dan fwgwd o elusengarwch, sydd yn gyfrifol am y llythyrau. Gan sylweddoli bod y rhwyd yn cau, mae Mary yn disgyn i mewn i gynddeiriogrwydd meddyliol dinistriol ac yn neidio i'w marwolaeth o glogwyn uwchben chwarel leol.

Cast[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. J.P. Wearing, The London Stage 1930-1939: A Calendar of Plays and Players, Scarecrow Press 1990
  2. J.C. Trewin, The Turbulent Thirties: A Decade of the Theatre, Macdonald & Co 1960
  3. review dated 10 November 1939; reprinted in Graham Greene, The Pleasure Dome: The Collected Film Criticism 1935-40, Secker & Warburg 1972
  4. David Quinlan, British Sound Films: The Studio Years 1928-1959, BT Batsford 1984
  5. Raymond Durgnat, A Mirror for England: British Movies from Austerity to Affluence, Faber & Faber 1970

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]