Planhigion Arctig-Alpaidd Eryri

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Y Tormaen coch
Y Tormaen siobynnog
Y Derrig
Nunatacau yng Ngorllewin yr Ynys Las

Fe geir yn Eryri nifer o fynyddoedd uchel sy’n gynefin i blanhigion Arctig-Alpaidd. Tueddent i fyw’n gymunedau sy’n gyfyngiedig i glogwyni calchog ar y copaon uchaf a rhoddir yr enw Arctig-Alpaidd iddynt oherwydd eu bod yn ffynnu ar fynyddoedd yr Alpau ac yng ngwledydd yr Arctig. Mae yna lawer iawn o ddyfalu wedi’i wneud i geisio egluro dosbarthiadau’r planhigion ac isod fe geir rhai o’r damcaniaethau.

Cred rhai mai creiriau ydynt o oes pan orchuddid rhan helaeth o Ynys Prydain gan len o rew. Bryd hynny, tua 15,000 o flynyddoedd yn ôl, trigent ar lawr gwlad de-Lloegr. Pan gynhesodd yr hinsawdd fe giliodd y rhew tua’r gogledd gan adael haen o bridd a chlai oedd yn gyfoethog newn mwynau, a thir agored carregog ar draws y wlad. Ysgogodd hyn ledaeniad y planhigion Arctig-Alpaidd a phoblogwyd pob cwr o Ynys Prydain gan y rhywogaethau arloesol hyn. Ceir tystiolaeth i gefnogi’r ddamcaniaeth hon ym mhriddoedd diwedd oes y rhew yn Ne Lloegr. Maent yn cynnwys paill planhigion megis y Tormaen coch (Saxifraga oppositifolia) a’r Derrig (Dryas octopetala); planhigion sy’n gyfyngiedig i fynyddoedd y gogledd a’r gorllewin ym Mhrydain.

Wrth i’r hinsawdd gynhesu ymhellach, ffurfiodd pridd ar yr iseldiroedd a daeth planhigion eraill i gystadlu a’r rhywogaethau Arctig-Alpaidd. Gorchchuddwyd Prydain a choedwigoedd eang a ni allai’r planhigion Arctig-Alpaidd oddef cystadleuaeth o’r fath. Felly fe’u cyfyngwyd hwy i nifer o ardaloedd lle parhai’r hinsawdd yn debyg i hinsawdd Oes y Rhew a lle ni cheid cystaleuaeth oddi wrth blanhigion eraill. Mynyddoedd Eryri yw un o’r ardaleodd cymwys hyn.

Damcaniaethau eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

Nid yw’r ddamcaniaeth hon yn egluro paham fod rhai planhigion yn bodoli yn yr Arctig ond nid yn yr Alpau. Enghraifft o hyn yw’r Tormaen siobynnog (Saxifraga caspitosa) sy’n cyrraedd ffin deheuol ei ddosbarthiad Ewropeaidd yn Eryri. Ail ddamcaniaeth yw – bod poblogaethau o blanhigion wedi goroesi Oes y Rhew yn eu safleoedd presennol. Eglura hyn absenoldeb llawer o rywogaethau’r Arctig o’r Alpau a hefyd safleoedd unig rhai cymunedau, gannoedd o filltiroedd oddi wrth blanhigion o’r un rhywogaeth.

Mae llawer o blanhigion yn trigo yng ngwledydd gogledd yr Iwerydd ac nid yn yr Alpau. Felly mae’n anhebgygol fod y planhigion hyn wedi tyfu ar gyrion y llen iâ gan y busai mudiad i’r Alpau wedi bod yn llawer iawn haws nag i Lychlyn ar ddiwedd oes y rhew. Mae’n debyg felly bod y planhigion wedi goroesi oes y rhew yn eu safleoedd presennol ar rai o fynyddoedd uchaf Llychlyn ac hwyrach Prydain. Euglura hyn pam fod cymaint o blanhigion endemig yn y gogledd. Yn bendant mae yna wahaniaethau mawr rhwng planhigion o’r un rhywogaethau yn yr Arctig a’r Alpau a dim ond dros gyfnod maith y gallasai hyn ddigwydd.

Ymysg llawer o bobl y gred yw fod fflora’r Arctig wedi bod yno ers amser maith ac mae sawl ffodd y gallasai’r lledaenu gwreiddiol fod wedi digwydd. Un dull yw ar draws Gwlad yr Iâ. Arferai’r ynys fod yn llawer iawn mwy, yn cyrraedd Ynysoedd y Ynysoedd Ffaro (Ynysoedd Faroe). Felly buasai mudiad o fewn ardal y gogledd-Iwerydd wedi bod yn weddol rhwydd ar draws ynys a gysylltai gogledd yr Iwerydd ag Ewrop. Dim on un ddamcaniaeth o blith nifer yw hon.

Heddiw mae llefydd o’r fath yn bodoli ar Ynys Las (Ynys Gronland). Yn aml, mynyddoedd sy’n codi uwchben y rhewlifoedd ydynt. Gwnaed llawer o ymchwil i geisio adnabod cyn-nunatakau mewn gwledydd gogleddol fel Norwy, trwy astudio’r planhigion a thirffurfiau [Gjaerevoll]. Tirffurfiau fel cymoedd a chribau sy’n derbyn y sylw mwyaf. Er eu bod nhw yn dystiolaeth o weithgaredd rhewlifol, maent hefyd yn ysgythrog a danheddog ac yn awgrymu nad ydynt wedi cael eu gorchuddio’n gyfangwbl gan rewlifiant. Felly gallent fod yn gyn-nunatakau. Mae cerrig rhydd ar gopaon mynyddoedd yn awgrymu rhyddid o rewlifiant ers cyfnod maith a gallai safleoedd o’r fath fod yn gyn-nunatakau. Nid ydy’r nunatakau o reidrwydd yn gorfod bod uwchben y rhewlifoedd. Yn yr Antarctig heddiw mae dyffrynoedd cyfan sy’n rhydd o rewlifiant.

Mae'n bosibl y ceid nunatakau yn Eryri drwy gydol oes y rhew, ac mae hyn yn debygol iawn gan fod yr ardal yn gymharol ddeheuol ac yn cynnwys tirffurfiau megis cymoedd a chribau. Os oes planhigion wedi byw trwy gydol yr oesoedd rhew yng Nghymru, paham nad oes gennym blanhigion endemig? Yr ateb i’r cwestiwn hwn mae’n debyg yw bod mwyafrif y planhigion Arctig-Alpaidd yn diflannu o’r tir yn ystod y cyfnodau cynnes rhwng yr oesoedd rhew, fel y tystia prinder llawer o rywogaethau Arctig-Alpaidd Eryri. Nid yw hyn yn broblem yn yr Arctig a’r Alpau gan bod yr amoda’n ffafriol yno hyd yn oed yn ystod y cyfnodau cynhesaf. Tebyg yw’r sefyllfa yn ystod y cyfnodau oerion yng Nghymru, gyda planhigion yr iseldiroedd yn marw o’r tir. Dim ond wrth edrych ar leoliad Ynys Prydain ar y map y gwelwn ei bod rhwng yr Arctig a’r Alpau. Fe’i cynhesir gan Lif-y-Gwlff sy’n golygu bod Prydain yn ynys gymharol gynnes. Felly fe geir cylchedd o ddifa ac ail-sefydlu wrth i’r hinsawdd gynhesu ac oeri.

Mae’n debygol bod gwirionedd yn y ddwy ddamcaniaeth a bod peth mudo wedi digwydd ar ddiwedd Oes y Rhew tra bod rhai planhigion yn bresennol ers cyn y cyfnodau oerion.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]